logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Ysgol

Ethos a Gwerthoedd: Mae Ysgol Pont y Gof yn ysgol gynradd wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Ein nod yw creu ysgol hapus ble mae pawb, yn blant ac oedolion, yn gwneud eu gorau bob amser, yn frwdfrydig, yn gofalu am ei gilydd ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle a phrofiad i ddysgu ac i gyfoethogi eu bywyd. Mae plant sy’n hapus yn gweithio’n well gan eu bod yn teimlo’n ddiogel. Os cânt barch gan eu rhieni a’u hathrawon, maent yn dangos parch yn ôl ac maent yn fwy awyddus i blesio. Ceisiwn sicrhau ein bod bob amser yn barod i wrando ar blant – nid eu clywed yn unig, a byddwn pob amser yn dêg. Nid yw hyn yn syml yn golygu trin pob plentyn yn union yr un fath bob amser. Rhaid trin pob plentyn yn ôl ei anghenion a’i bersonoliaeth unigryw ei hun. Ceisiwn annog plant i fod yn aelodau cyfrifol o’r ysgol a’u cymdeithas leol ac i dyfu’n bersonau sy’n ystyriol o eraill a’u hamgylchedd. Amcanwn i roi’r addysg orau bosib i bob disgybl.

Ceisiwn barchu syniadau pob oedolyn a phlentyn o fewn yr ysgol gan ddatblygu ymhellach yr arfer o gefnogi ein gilydd ym mhob agwedd o weithgareddau’r ysgol.

Mae perthynas agos rhwng y cartref a’r ysgol yn holl bwysig, a gwyddom y cawn bob cyd-weithrediad gennych i sicrhau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglŷn ag unrhyw fater, mae croeso i chi gysylltu gyda’r ysgol ar unrhyw adeg – mae’r drws bob amser ar agor.

 

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru