logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Archif Newyddion

 

10/12/24 Cyngerdd Nadolig

Perfformiad rhagorol. Da iawn chi blantos, gwych pob un!

  • nadolig
  • nadolig-1

20.11.24 - Blwyddyn 1 a 2 yn creu torchau ar gyfer y ffair Nadolig

Plant blwyddyn 1 a 2 yn brysur yn creu torchau i'w gwerthu yn y ffair Nadolig.

  • blwyddyn-1-a-2
  • blwyddyn-1-a-2-gyda-torchau

20.11.24 - Blwyddyn 5 a 6 yn Twrnament Rygbi a Hoci

Plant blwyddyn 5 a 6 wedi mwynhau'r twrnament rygbi a hoci. Da iawn chi.

  • blwyddyn-5-a-6

Diwrnod Plant Mewn Angen 2024

Rydym wedi casglu swm o £161.97.
Diolch am eich cefnogaeth.

  • 181124-diwrnod-plant-mewn-angen-1
  • 181124-diwrnod-plant-mewn-angen-2

27.05.24 - Eisteddfod yr Urdd 2024

Llongyfarchiadau enfawr i'r plant a fu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf.
Roedd hi'n bleser gweld y plant yn perfformio ar y llwyfan. Da iawn chi.

  • 270524-eisteddfod-yr-urdd-1
  • 270524-eisteddfod-yr-urdd-2

24.05.24 - Traeth Rhosgor

Cafodd blwyddyn 5 a 6 ddiwrnod gwych ar draeth Rhosgor yn chwilio am lestri o'r llongddrylliad 'Y Cyprian' a chael gweld y morloi.
Diolch am y croeso a gawsom yn Amgueddfa forwrol Nefyn yn y bore.

  • 240524-draeth-rhosgor

23.05.24 - Trip Cyfnod Sylfaen

Cawsom ddiwrnod bendigedig ym Mhlas y Rhiw, Tŷ Engan a Trygarn.
Diolch yn fawr iawn am y croeso. Pawb wedi mwynhau’n arw.

  • 230524-mlas-y-rhiw

29.4.24 - Wythnos dysgu yn yr awyr agored

Pawb wedi mwynhau chwynu, plannu, creu Bwgan Brain a gwesty trychfilod.
Diolch i Charlotte am ein helpu i greu’r gwesty.

  • wythnos-dysgu-1
  • wythnos-dysgu-2
  • wythnos-dysgu-3

16.3.24

Llongyfarchiadau mawr i'r parti adrodd ar lwyddo i gael 2il yng nghystadleuaeth Urdd y Sir. Roeddech chi'n werth eich clywed. Diolch o waelod calon i Rhian Parry am eu hyfforddi.

  • eisteddfod

15.3.24

Dyna hyfryd oedd derbyn gwobr Efydd Ysgol Teithio Llesol heddiw. Diolch Debbie am ei anfon. Cafodd yr Ysgol Werdd gyfle i gyflwyno'r tystysgrif a'r plac a diolch iddynt am ddodbarthu'r sticeri lliwgar i bawb. Daeth y wobr yn amserol iawn wrth i ni fod yng nghanol bythefnos Stroliwch a Rholiwch.

  • ysgol-werdd
  • ysgol-werdd-2

7.3.24

‘Catwalk’ heddiw i ddangos y gwisgoedd anhygoel wrth ddathlu Diwrnod y Llyfr! Diolch i bawb am fynd i’r fath ymdrech eto eleni.

  • diwrnod-y-llyfr-1
  • diwrnod-y-llyfr-2
  • diwrnod-y-llyfr-3
  • diwrnod-y-llyfr-4
  • diwrnod-y-llyfr-5
  • diwrnod-y-llyfr-6

6.3.24

Blwyddyn 6 ar eu ffordd adref ar ôl cael amser bythgofiadwy yn y brifddinas! 󠁧󠁢󠁷Roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau ac wedi cael amser anhygoel.

  • trip-caerdydd-1
  • trip-caerdydd-2
  • trip-caerdydd-3

5.3.24

Blwyddyn 6 wrth eu boddau yn y brifddinas!

  • senedd
  • trip

4.3.24

Blwyddyn 6 wedi cyrraedd yn saff ar ôl cael cinio yn Llanelwedd ar y ffordd i lawr.

  • urdd

4.3.24

Llongyfarchiadau MAWR i griw yr Urdd ar ddod yn gyntaf gyda’r gân actol heno.
Perfformiad arbennig gan bob un, da iawn chi am wneud eich gorau glas.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod wrthi yn eu hyfforddi.

  • eisteddfod
  • eisteddfod-1
  • eisteddfod-3

1.3.24

Dathlwyd Dydd Gwyl Dewi eleni drwy gael cerddoriaeth Gymraeg ar yr iard, dawnsio gwerin, coginio a sglaffio cacennau cri!

  • dawnsio
  • gwyl-dewi
  • gwyl-dewi-1

27.3.24

Diolch yn fawr i Rhys am ddod draw i blannu hadau blodau gwyllt gyda'r Ysgol Werdd.

  • garddio

29.2.24

Bydd Cwt Eto ac Eto ar agor eto ddydd Sul yma.
Galwch draw ryw dro rhwng 10am a 3pm i helpu’ch hun i ddillad ysgol am ddim.
Mae mwy o ddillad wedi cyrraedd y cwt mis yma, diolch am yr holl gyfraniadau.
(Cofiwch gau y drws ar eich hôl os gwelwch yn dda rhag i’r gwynt falu’r drws)


29/02/24

Cawsom brynhawn bendigedig yn perfformio i’r gymuned i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Diolch o galon i Ganolfan Fenter Congl Meinciau am y croeso.


  • 010324-dydd-gwyl-dewi-1
  • 010324-dydd-gwyl-dewi-2-lg

28/02/24 - Pobl sy'n ein helpu ni.

Diolch PC Rhiannon am ddod draw heddiw i ddysgu'r plant am bobl sy'n ein helpu ni yn y gymuned a diogelwch y we. 👮🏽

  • newyddion
  • pc-rhianon

26.2.24

Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dros y penwythnos a diolch am y perfformiadau yn y gwasanaeth heddiw. Mwy o gystadlu i ddod! Pob lwc i bawb.

  • 270224-eisteddfod-1
  • 270224-eisteddfod-2

22.02.24

Tybed beth sy'n cael eu creu yn Nghlwb Seiri'r Gof ar ddydd Iau?
Rydym wedi altro a buddsoddi ar ein safle gwaith coed yn ddiweddar. Diolch i bawb sydd wedi helpu i'w wneud.

  • 220224-clwb

22.02.24

Diolch i Mr Gwyn Ellis am ddod o'r archifdy i roi hanes tref Pwllheli i blant CA2. Roedd hi'n braf gweld hen luniau a thrafod y cysylltiadau. Edrychwn ymlaen i fynd yno ar taith gerdded wythnos nesaf.

  • 220224-gwyn-ellis

19.02.24

Yr Ysgol Werdd wedi bod wrthi yn cael trefn ar yr ardd yn barod i blannu.

  • 190224-ysgol-werdd

09.02.24

Diwrnod prysur yn dathlu Dydd Miwsig Cymru a diwrnod Gwisgo’n lliwgar neu’n llachar!

Cawsom gyfle i;

  • Gwrando’n fyw ar Ifan Swnami yn ateb cwestiynau a chynnal cwis.
  • Daeth y fan lyfrgell i’r ysgol.
  • Dysgu am ddiogelwch ar y strydoedd ar lonydd yn y tywyllwch.
  • Ac mi fydd fideo o’r plant yn canu eu hoff gân Cymraeg yn rhan o gystadleuaeth Menter Iaith Gwynedd ar dudalen Facebook cyhoeddus yr ysgol cyn pen dim.
  • 090224-1
  • 090224-2
  • 090224-3

08.02.24

Diolch i Caryl o’r archifdy am sgwrs ddifyr bore ‘ma am sut oedd ein cartrefi amser maith yn ôl.

  • news-1
  • news-2
  • news-3

02.02.24

Mae’r cyngor ysgol wedi bod yn brysur yn paratoi ‘Cwt eto ac eto’. Mi fydd clo y cwt ar agor dydd Sul cyntaf pob mis, gan ddechrau dydd Sul yma!!! Galwch draw ryw dro rhwng 10am a 3pm i helpu’ch hun i ddillad ysgol am ddim. Ffordd wych o helpu’r amgylchfyd♻️🌎 (Cofiwch gau y drws ar eich hôl os gwelwch yn dda rhag i’r gwynt falu’r drws)

  • cyngor-ysgol

01.02.24 - Darllen Co

Diolch o galon i Anni am ddod draw i gyd-gyflwyno rhaglen Darllen Co. i rieni’r ysgol. Rydym yn hynod gyffrous i gael gwneud defnydd lawn o’r wefan.

  • darllen-co

01/02/24 - Gofalu am Ani

Cawsom fore prysur yn gofalu am Ani ci Miss Williams. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw.

  • plant
  • plentyn

31/01/24 - Trip i Ysbyty Bryn Beryl

Cawsom brynhawn difyr iawn yn canu a rhoi cardiau i godi calonnau cleifion yn Ysbyty Bryn Beryl. Diolch yn fawr iawn am y croeso. Pawb wedi mwynhau yn arw.

  • plant-ysgol-mawr

26.01.24 – Taith o amgylch Botwnnog

Cafodd Blwyddyn Derbyn fore difyr yn dysgu sut mae Botwnnog wedi newid dros y blynyddoedd. Bûm yn cymharu bob lleoliad gan edrych ar luniau du a gwyn a dynnwyd ers talwm. Ydych chi'n gwybod lle ydym ym mhob llun?

  • 290124-post
  • 290124-ty-nansi
  • 290124-ysgol

25.01.24 - Mwynhau yn Nghlwb Seiri'r Gof

Mwynhau yn Nghlwb Seiri'r Gof amser cinio.

  • amser-cinio

25.01.24 - Cystadleuaeth Sion a Sian

Mi gawson ni sbort yn cynnal cystadleuaeth Sion a Sian yn y gwasanaeth ddoe i ddathlu dydd Santes Dwynwen! 😅💗

  • santes-dwynwen

25.01.24 – Diwrnod Golchi Beti Bwt

Plant Meithrin a Derbyn wedi bod yn brysur yn helpu Beti Bwt i olchi dillad.

  • 290124-plant
  • 290124-plentyn
  • 290124-plentyn-1

24.01.24

Dyma'r Cyngor Ysgol yn cael trefn ar y Cwt Eto ac Eto.

  • cwt-eto-ac-eto

11.01.24 – Gwasanaeth gan Debbie Ysgol Iach

Diolch i Debbie am ddod i roi cyflwyniad i ni ar ddiogelwch y ffyrdd. Mor bwysig ydi hi i wisgo’n llachar yn y tywyllwch yn enwedig yn y Gaeaf wrth iddi dywyllu yn fuan.

  • 170124-gwasanaeth-debbie

21.12.23 – A dyna ni am 2023, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan bawb o ysgol Pont y Gof.


20.12.23 – Trip Ysgol Cyfnod Allweddol 2

Aeth blwyddyn 3, 4, 5 a 6 i weld sioe Wonka i Pontio, cafodd pawb fynd a fferins gyda nhw i wylio’r ffilm!


19.12.23 – Coginio bisgedi Nadolig

Cawsom goginio bisgedi blasus a’u haddurno.

  • 170124-bisgedi-blasus

18.12.23 – Canu o dan y goeden yng Nghongl Meinciau

Aeth blwyddyn 3 a 4 i Congl Meinciau i berfformio i’r gymuned. Braf oedd gweld pawb yn mwynhau a’r plant yn canu carolau a chael sgwrs gyda’r gwrandawyr.


18.12.23 – Gwasanaeth yn yr Eglwys gan y Parchedig Kevin

Diolch i’r parchedig Kevin am drefnu gwasanaeth arbennig yn Eglwys Beuno Sant i blant Cyfnod Allweddol 2.

  • 170124-gwasanaeth-kevin

15.12.23 – Cinio Dolig a diwrnod Siwmper Nadolig

Diolch eto eleni i staff y gegin am baratoi cinio bendigedig. Cafwyd pryd o fwyd blasus dros ben a phawb yn sglaffio gan wisgo eu siwmperi Nadolig. Roedd yr ymdeimlad Nadoligaidd yn hyfryd yn ystod y dydd.

  • 170124-cinio-dolig

14.12.23 – Cyngerdd Nadolig

Ar ôl wythnosau o baratoi, daeth diwrnod y cyngerdd Nadolig. Perfformiwyd yn y prynhawn ac eto wedyn gyda’r nos. Roedd neuadd Sarn yn orlawn a phawb yn cael gwledd. Diolch i’r plant am roi perfformiadau arbennig i bawb.


8.12.23 - Cwt eto ac eto

  • 170124-cwt-eto-ac-eto

7.12.23 – Trip Cyfnod Sylfaen i Siop Y Fferm Abersoch

Cawsom groeso cynnes yn Siop y Fferm Abersoch. Roedd y plant wrth eu boddau yn cyfarfod Sion Corn.


6.12.23 – Gwasanaeth gan Nia

Diolch i Nia ac Angela Rhydderch am ddod i roi gwasanaeth hwyliog i’r plant. Roedd hi’n braf cael gweld Lewis eto ac roeddem wrth ein boddau yn cael cyfle i ganu gyda’r gitâr!


4.12.23 – Sion Corn yn dod i’r Ysgol

Bore arbennig yn croesawu Sion Corn i’r ysgol gyda’i sach enfawr. Roedd Sion Corn hyd yn oed yn cofio enwau’r plant ac yn cofio beth oedd eu dymuniad ar gyfer y ‘dolig. Plantos lwcus iawn!

  • 170124-sion-corn

1.12.23 – Stondin Cymdeithas Rieni yn Abersoch

Aeth y Gymdeithas Rieni a stondin i Ffair Nadolig Abersoch, diolch iddynt am roi eu hamser i fynd.


1.12.23 – Sioe gan Anni Llyn

Diolch i Anni am ddod i roi sioe wych i’r plant. Roedden nhw wrth eu boddau yn gweld y ninja ac yn ceisio helpu i achub y Nadolig rhag Celyn y Gelyn eto eleni. Cafwyd cystadlaethau ymysg y plant ac roedden nhw wrth eu boddau yn cymryd rhan. Sioe arbennig i bob oed yn yr ysgol.

  • 170124-sioe-anni-llyn

30.11.23 – Gwasanaeth gan y Parchedig Kevin

Cafwyd gwasanaeth gan y Parchedig Kevin am hanes o’r beibl. Roedd pawb yn gwrando yn astud ac yn mwynhau.


22.11.23 – Gair Mewn Gwlân Congl Meinciau

Aeth criw o blant blwyddyn 5 i Congl Meinciau i gyflwyno’r gwaith roeddent wedi ei wneud ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol i gymdogion lleol. Rhoddwyd ychydig o hanes y pentref, rhannwyd yr enwau roedden nhw wedi eu dewis a dangoswyd y flanced roedden nhw wedi ei gwneud yn arbennig i’w harddangos.


17.11.23 - Ffair Dolig y Cylch

Cafwyd Ffair Nadolig llwyddiannus iawn yn Neuadd Sarn eleni gan y Cylch Meithrin. Roedd stondinau o pob math, asyn ac hyd yn oed Sion Corn i’n croesawu yno. Roedd blwyddyn 3 a 4 wedi cael cystadleuaeth dylunio tagiau anrhegion Nadolig, gwerthwyd y cynnyrch yn y Ffair. Diolch i Iago a Robat am fod ar y stondin yn ystod y ffair yn eu gwerthu.

  • 170124-cynnyrch-dolig

17.11.23

Aeth 9 o blant Blwyddyn 5 a 6 i Ganolfan Hamdden Porthmadog i gynrychioli'r ysgol mewn cystadleuaeth Athletau Sportshall. Llongyfarchiadau iddynt am ddod yn 5ed allan o 12eg tîm. Da iawn.

  • 171023

17.11.23

Daeth pawb i'r ysgol mewn pyjamas. Roedd pawb yn lliwgar iawn ac yn werth eu gweld. Cyfrifwyd £209.67 gan y Cyngor Ysgol. Diolch i bawb am gefnogi Plant Mewn Angen. Cafwyd cacen a diod yn y prynhawn a gemau ar yr iard. Diwrnod gwerth ei gael!

  • 171023-plant-mewn-angen

17.11.23

Diolch Elias am ddod a’i anifeiliaid anwes i ddangos i ni yn yr ysgol heddiw. Roedd yn ddifyr iawn ceisio darganfod yr holl bryfaid pric yn eu cynefin.

  • 171023

16.11.23

Cynhaliwyd cystadleuaeth yn nosbarth Seithbont i ddylunio tagiau anrhegion Nadoligaidd i’w gwerthu. Llongyfarchiadau mawr i Wil am ennill y gystadleuaeth. Y Cyngor Ysgol gafodd y pleser o feirniadu gwaith creadigol y plant. Mi fydd y tagiau ar werth yn Ffair ‘Dolig y Cylch Meithrin nos ‘fory yn Sarn, ewch yno i’w cefnogi.

  • 161123

15.11.23

Croesawu Pudsey i’r ysgol heddiw. Diolch am ddod i’n gweld. Mi wnaeth o fwynhau dawnsio wrth i Dafydd chwarae’r drymiau!

  • 151123

13.11.23

Bu'r Cyngor Ysgol yn brysur yn paratoi tuag at Ddiwrnod Plant mewn Angen dydd Gwener. Gwnaethpwyd y poster gan Efa o flwyddyn 6.

  • 131123

27.10.23

Gwasanaeth Diolchgarwch hyfryd ar ddiwedd yr hanner tymor.



24.10.23

Diolch o galon unwaith eto i deulu Crugan am y croeso cynnes. Y plant hŷn wedi cael cyfle i fwynhau a dewis eu pwmpenni heddiw. Mi ddysgom ni lawer iawn ar yr ymweliad. Diolch yn fawr iawn.

  • 24.10.23

24.10.23

Daeth Nick Thomas, o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru i'r ysgol i siarad gyda Dosbarth Blwyddyn 3 a 4. Mae Nick yn rhannol ddall ac wedi gorfod addasu i fyw ag ymdopi gyda'i anghenion. Mae Nick wedi gwneud yn andros o dda mewn chwaraeon, mae wedi cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Ar hyn o bryd, maen gwneud bwa saeth i dîm Cymru. Roedd cyflwyniad gan Nick yn agoriad llygaid ac yn gymorth i sawl un yn y dosbarth.


18.10.23

Diolch i deulu Crugan am y croeso cynnes, plant y Cyfnod Sylfaen wedi mwynhau’r helfa pwmpenni ac yn barod am Galan Gaeaf.

  • 17.10.23

17.10.23

Diolch Gethin Jones am y sesiynau pêl droed wythnosol. Mae’r plant wedi mwynhau.


17.10.23

Diwrnod da i flwyddyn 3 a 4 yn y twrnament rygbi a hoci. Pawb wedi mwynhau ac wedi gwneud eu gora’ glas.

  • 171023-1

13.10.23

Ymwelydd go wahanol. Dyma Rocky
Roedd croesawu anifeiliaid anwes i’r ysgol yn un o ofynion y plant wrth roi rhestr ‘Sut i wella’r ysgol’ i’r Cyngor Ysgol eleni. Tybed beth ddaw i’n gweld ni nesaf?!

  • 13.09.23

11.10.23

Diwrnod llawn hwyl ddoe i griw blwyddyn 5 a 6 yn y twrnament hoci a rygbi ym Modegroes. Diolch byth fod y tywydd wedi bod o’u plaid.

  • 11.10.23

7.10.23

Cyflwynwyd 2 aelod diogelwch y ffyrdd newydd am y flwyddyn yn y gwasanaeth ddoe. Diolch Morgan a Mia am godi ein ymwybyddiaeth ar gyflymder 20 milltir yr awr a’r twmpathau arafu yn y pentref.
Wythnos nesaf, mi fydd hi’n wythnos beicio, cerdded a sgwtera yn Ysgol Pont y Gof. Gwnewch eich gorau i deithio’n iach i’r ysgol.

  • 7.10.23

13.9.23

Dewiswyd Cyngor Ysgol ar gyfer y flwyddyn.

  • 7.10.23

5.9.23

Croesawyd pawb yn ôl am flwyddyn arall.

12.8.23

Cafodd plant Pont y Gof wythnos brysur iawn yn yr Eisteddfod ym Moduan. Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, cymerodd Iolo a Lois ran yn agoriad y Babell Len, gan ddarllen darn o gerdd oedden nhw wedi'w hysgrifennu yn yr ysgol. Yn y prynhawn, cafodd plant y dalgylch i gyd gyfle i ganu anthem ysgolion Llŷn ar Lwyfan y Maes o flaen cannoedd o gynulleidfa. Dydd Mawrth, cafodd Guto, Elgan, Harri, Gruffudd ac Owain fynd i babell Eco Amgueddfa i roi cyflwyniad i'r gynulleidfa ar y gwaith oedden nhw wedi bod wrthi yn ei wneud gyda phrosiect Gair mewn Gwlan a'r flanced wlân. Dydd Iau, aeth Tomos, Ellie ac Ela Cêt i babell Dalgylch Botwnnog i gyflwyno'r gwaith oedden nhw wedi bod yn ei wneud gyda Mared Llywelyn ac yna cyflwyno'r cerddi roedden nhw wedi'w ysgrifennu o dan y teitl 'Am Dro'.

  • 050923-llun-eisteddfod-1
  • 050923-llun-eisteddfod-2
  • 050923-llun-eisteddfod-3

20.7.23

Diwrnod trist o ffarwelio gyda blwyddyn 6 a Mrs Sera Jones. Diolch yn fawr Mrs Sera Jones am bob dim yn Ysgol Pont y Gof, pob lwc i chi ar eich menter newydd ym mis Medi o warchod plant. A phob lwc i griw annwyl blwyddyn 6 ym mis Medi yn yr uwchradd, mi fyddwch chi rêl bois! Mwynhewch wyliau’r haf, mi welwn ni chi gyd ym mis Medi.


19.7.23

Diwrnod prysur i flwyddyn 6 heddiw wrth iddynt gyflwyno gwasanaeth i weddill yr ysgol ac i’w rhieni. Yna, cawson nhw ginio bendigedig diolch i staff y gegin. Prynhawn heddiw, cawson nhw gyfle arbennig iawn yn ffilmio gyda heno wrth drafod y gwaith maent wedi bod wrthi yn ei wneud fel rhan o brosiect yr eisteddfod. Ffilm Garnfadryn - cadwch eich llygaid allan am y ffilm ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn yr Eisteddfod.


18.7.23

Unwaith eto eleni cawsom gyfle i wneud triathlon. Dim i godi arian y tro hyn, dim ond am hwyl. Gwneud defnydd da o'r trac o gwmpas y cae a'r llond sied o feics!


17.7.23

Daeth Tudur draw i roi sioe i'r plant i gyd. Cyflwyniad bras i'r Eisteddfod, mae pawb yn edrych ymlaen i groesawu'r eisteddfod erbyn hyn.


14.7.23

Trip CA2 i Gelli Gyffwrdd.


13.7.23

Trip Cyfnod Sylfaen i Fferm Gwningod, lan y mor a chaffi Largo.


8.7.23

Ar ddiwrnod Priodas Miss Jones a Wil, aeth ychydig o'r plant tu allan i'r capel i weld y briodas ac aeth blwyddyn 6 i'r capel i ganu yn y gwasanaeth.

  • 180723-priodas

6.7.23 - 7.7.23

Plas Menai
Cafodd blwyddyn 4 a 5 amser gwerth chweil ym Mhlas Menai yn dringo, padlfwrddio a chanwio. Daeth pawb a digon o fferins gyda nhw. Diolch i'r staff aeth yno gyda nhw.

  • 180723-plas-menai

5.7.23

Aeth blwyddyn 3 a 4 i Ganolfan Hamdden i gystadleuaeth athletau'r dalgylch. Daeth ambell un adref gyda thystysgrif.


29.6.23

Aeth blwyddyn 5 a 6 i Ganolfan Hamdden i gystadleuaeth athletau'r dalgylch. Daeth ambell un adref gyda thystysgrif.


27.6.23

Wel dyna i chi Eisteddfod a hanner. Llongyfarchiadau MAWR i bawb. Diolch i bawb sydd wedi bod wrthi yn paratoi ac yn ein helpu i wneud Eisteddfod Ysgol Pont y Gof 2023 yn un lwyddiannus. Llongyfarchiadau Lisi o flwyddyn 6 ar ennill y gadair ac i dîm Neigwl am guro’r Eisteddfod eleni.

Llongyfarchiadau i Gruffudd Parri a Lewis Gwyn ar dderbyn tlws am y nifer mwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau'r gwaith cartref.


26.6.23

Cystadlaethau gwaith cartref yr Eisteddfod wedi'w gosod yn neuadd Sarn. Werth eu gweld. Gwaith Cartref Eisteddfod - YouTube

Gwaith Cartref Eisteddfod
www.youtube.com

Cynhaliwyd Eisteddfod fach yn yr Ysgol, rhagbrofion ar gyfer y llwyfan yn neuadd Sarn. Diolch i Sharon Glyn ac Enid am feirniadu.


22.6.23

Da iawn blwyddyn 5 a 6 am wneud eich gorau glas yn y gystadleuaeth rownderi a phêl droed yn Edern.


21.6.23

Cafwyd gwasanaeth gan griw agor y llyfr yn y bore a chafodd blwyddyn 5 a 6 sesiwn beicio a defnyddio sgiliau beic gyda Debbie o Sustrans Cymru.

  • 290623-sesiwn-beicio

15.6.23

Diwrnod Mabolgampau llwyddiannus iawn heddiw. Llongyfarchiadau mawr i bob un plentyn am wneud eu gorau glas. A llongyfarchiadau i dim Neigwl am guro eleni. Diolch i bawb fu'n helpu yn y ffair haf.


13.6.23

Cafodd plant CS barti i godi hwyliau Llipryn Llwyd.


11.6.23

Ras hwyaid Pont y Gof. Llongyfarchiadau i Keegan am gael cyntaf gyda'i hwyaden.


8.6.23

Gwibdaith Gwynedd Ni. Aeth blwyddyn 5 a 6 ar daith i ddysgu mwy am nodweddion amgylcheddol yr ardal. Dechreuwyd y diwrnod yn edrych ar gar trydanol gan Wil Bodnithoedd, yna aethon nhw i Crugeran i weld y felin wynt enfawr sy'n y cae yn cynhyrchu trydan i'r fferm. Cawson nhw gyflwyniad gan Rhys Williams am y pridd a effaith amgylcheddol ar y tir. Yna, aethon nhw i lan y mor Nefyn i ddysgu am y tirwedd ac effeithiau'r mor. Cawson nhw hefyd gyfle i ddysgu am effeithlonrwydd tyfu llysiau eu hunain.

  • 290623-blwyddyn-5-6-a
  • 290623-blwyddyn-5-6-b
  • 290623-blwyddyn-5-6-c

7.6.23

Diolch i Lois Llewelyn am ddod i roi cyflwyniad am ei busnes Llewes ym Mhwllheli. Roedd Blwyddyn 1 a 2 yn elwa o'r cyflwyniad wrth iddynt fynd ymlaen gyda'u busnes o greu cardiau.


6.6.23

Croesawyd 15 o blant meithrin i'n diwrnod blasu eleni. Aeth blwyddyn 6 i fyny i Fotwnnog, mae nhw'n edrych ymlaen am y bennod nesaf.


29.5.23

Roeddem i gyd mor falch o berfformiad criw clocsio yr Urdd yn yr Eisteddfod eleni. Diolch i Tudur am hyfforddi ac i Mrs Catrin Jones am gyfeilio.

  • 290623-urdd-a
  • 290623-urdd-b

25.6.23

Er mwyn codi arian at elusen, cafodd pawb wisgo dillad eu hunain a daethon nhw a hen lyfrau gyda nhw i'r ysgol. Cafodd pawb gyfle i gyfnewid llyfr a chael llyfr newydd sbon i fynd adref gyda nhw.


19.5.23

Wel, mae yna hen baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Ysgol. Llongyfarchiadau i Wil o Neigwl, Lois o Trefaes a Lewis o Dyffryn am ennill y bleidlais o gael y logo gorau. Mae blwyddyn 2 wedi bod yng ngweithdy Ffiws heddiw yn argraffu ar grysau-t.


19.5.23

Dyma gyfle i gyflwyno'r ddraig goch sy'n cael mynd adref i gartref 2 ddisgybl sy'n siarad Cymraeg yn dda yn y Cyfnod Sylfaen pob wythnos. Mae criw y Siarter Iaith wedi penderfynu hefyd rhoi chwaraewr CD a chasgliad o gryno ddisgiau i ddisgyblion sy'n siarad Cymraeg yn dda yn ystod yr wythnos ym Mlwyddyn 3, 4, 5 a 6.

Dyma lun y 4 lwcus wythnos yma gyda arwydd'r newydd!

  • 230523-ser-siarter-1
  • 221123-siarter-iaith-2

18.5.23

Diolch i’r Tad Kevin am drefnu i ni ymweld ag Eglwys Botwnnog ac am roi gwasanaeth byr i’r plant gyda Anti Mandy ar y piano.

  • 230523-egwlys
  • 230523-news

15.5.23

Diolch i Lisa o fanc HSBC am ddod i roi gwers i blant CA2 am ddarnau arian a sut gallwn ofalu am ein arian.

  • 230523-dosbarth

11.5.23

Diolch i Mrs a Mr Harden am y croeso bendigedig i erddi Nanhoron. Pawb wedi mwynhau yn arw, dwi’n siwr y bydd ‘na gysgu heno

Cawsom gyfle hefyd i weld ambell bont o gwmpas y fro a’u cysylltu gyda’r enwau ar y flanced rydym wrthi yn ei gwneud at yr eisteddfod.

  • 150523-trip-1-sm
  • 150523-trip-2-sm
  • 150523-trip-3-sm

10.5.23

Diolch yn fawr i Anni Llŷn am ddod at blwyddyn 3 a 4 i'w helpu i ysgrifennu cerdd ar gyfer prosiect Gair Mewn Gwlân yr Eisteddfod Genedlaethol.


10.5.23

Diolch i Nia am ddod i roi gwasanaeth i bawb.


6.5.23

Llongyfarchiadau mawr Cadi ar ddod yn ail gyda'i gwaith graffeg cyfrifiadurol yn yr Urdd.


5.5.23

Rydym wedi bod wrthi yn brysur yn peintio daliwr compost yng Nghoed Cofan yn ystod amser chwarae, edrychwn ymlaen i weld y gwaith gorffenedig.

  • 090523-peintio
  • 090523-peintio-2

5.5.23

Mae plant blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn brysur iawn wythnos yma yn pwytho blanced ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

  • 090523-pwytho

4.5.23

Cafodd plant y cyfnod sylfaen sgwrs ddifyr gan Rhian o Gaerfyrddin am ei bywyd ers iddi golli ei golwg pan yn ferch ifanc.
Bu’r plant hefyd yn wynebu her gan dywys ei gilydd o amgylch cwrs rhwystrau.
Diolch i Rhian a’i chwaer Iris am ymweld a ni yn yr ysgol.

  • 090523-rhian-caerfyrddin

3.5.23

Daeth Casia Wiliam i'r ysgol i drafod ei nofel Sw Sara Mai gyda phlant CA2. Cafodd y plant gyfle i ysgrifennu straeon byr gan ddefnyddio syniadau unigryw Casia.

  • 090523-casia

1.5.23

Llongyfarchiadau i bawb fu'n cystadlu yn Sioe Nefyn eleni, o fod yn waith creadigol o'r ysgol neu adref a dangos da byw.

  • 090523-sioe-nefyn
  • 090523-sioe-nefyn-2

17.4.23 Ed Holden

Daeth Ed Holden i'r ysgol i rapio gyda Blwyddyn 3 a 4. Roedd hyn yn ran o baratoadau'r Eisteddfod Genedlaethol, gobeithio cawn glywed y rap ar y maes.

  • 020523-ed-holden

20.4.23 Ysgol Werdd

Mae criw'r Ysgol Werdd wedi bod wrthi yn brysur yn cael trefn ar yr ardd lysiau ers dod yn ôl ar ôl y Pasg.

  • 020523-ysgol-wedd-1
  • 020523-ysgol-wedd-2
  • 020523-ysgol-wedd-3

26.4.23 Agor y Llyfr

Daeth criw Agor y Llyfr i'r ysgol i roi gwasanaeth a cafodd Ela a Cadi gymryd rhan. Diolch iddynt am eu hamser.

  • 020523-agor-llyfr

28.4.23 Gala Nofio

Llongyfarchiadau mawr i'r plant aeth i gystadlu yn y Gala Nofio. Mi wnaeth pob un ymdrech arbennig. Llongyfarchiadau i Dafydd bl.5 am gael cyntaf yn ei ras, Tomos bl.4 yn ail yn ei ras, Cadi bl.6 yn ail a thȊm ras cyfnewid blwyddyn 6 yn drydydd. Ardderchog.

  • 020523-gala-nofio
  • 020523-gala-nofio1

31.3.23 Pasg Hapus i bawb


30.3.23 Bore difyr gyda Mared Llewelyn

Bore difyr gyda Mared Llewelyn yn trafod enwau lleol ac yn dechrau partoi at yr Eisteddfod Genedlaethol.


30.3.23 Derbyn offer Gwyddoniaeth newydd

Plantos hynod o lwcus ym Mhont y Gof yn derbyn offer Gwyddoniaeth newydd gyda’r arian godwyd gan y criw fu’n trefnu Rali Goffa James Trenholme. Diolch o waelod calon, a diolch Marii Lois am ddod draw i gyflwyno’r offer iddynt heddiw. Gosododd Mari gystadleuaeth i’r plant i ddylunio car, mi fydd yr enillydd yn ennill hwdi y rali. Rydym yn edrych ymlaen am gystadleuaeth!

Diolch yn fawr iawn


30.3.23 Cyffro mawr yn Nosbarth Derbyn a Meithrin

Cyffro mawr yn Nosbarth Derbyn a Meithrin heddiw wrth i’r ŵy cyntaf ddeor.


27.3.23 - 29.3.23 Caerdydd

Aeth Blwyddyn 6 i Gaerdydd gyda disgyblion ysgol Nefyn. Cawson nhw amser i'w gofio yn ymweld â Stadiwm y Principality, Sain Ffagan a'r Senedd. Diolch i'r athrawon am fynd a nhw ag i'r plant am ymddwyn yn arbennig.


25.3.23 Llongyfarchiadau i'r parti adrodd

Llongyfarchiadau mawr i'r parti adrodd am ddod yn ail yn yr Eisteddfod ym Mangor. Diolch i Rhian ac Anni am eu hyfforddi. Perfformiad gwych.


24.3.25 Tîm dawnsio

Cafodd tîm dawnsio yn cael hwyl yn ymarfer at yr Eisteddfod yn y twmpath dawns yn Mynytho. Diolch am y cyfle i berfformio.


21.3.24 Neges i bawb gan y Cyngor Ysgol

Wythnos Stroliwch a Roliwch.
Maen cyfri os yw’r plant yn gwneud 10munud o deithio llesol naill ben i’r siwrne mewn car neu ar fws.


7.3.23 Diolch i flwyddyn 1 a 2

Diolch i flwyddyn 1 a 2 am brynhawn gwerth chweil i godi arian i anifeiliaid y jyngl. Gweithgareddau o bob math… ocsiwn, tombola, raffl, chwilio am y teigr. Mae ganddynt waith cyfri arian yfory! Da iawn chi blantos


9.3.23 - Diolch PC Rhiannon

Diolch PC Rhiannon am ddod at plant blwyddyn 3, 4, 5 a 6 am sgwrs heddiw am ddiogelwch.


8.3.23 - Prynhawn Gwerth

Diolch i flwyddyn 1 a 2 am brynhawn gwerth chweil i godi arian i anifeiliaid y jyngl. Gweithgareddau o bob math… ocsiwn, tombola, raffl, chwilio am y teigr. Mae ganddynt waith cyfri arian yfory! Da iawn chi blantos


3.2.23 - Diwrnod y Llyfr

Diolch am fynd i gymaint o ymdrech. Pawb yn edrych yn wych

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Gwnewch eich gorau glas


1.3.23 - Dydd Gwyl Dewi.

Mae plant blwyddyn Meithrin a Derbyn wedi bod wrthi yn gwneud cawl cennin wythnos yma.


18.2.23 - Da iawn Ela Morfudd, William a Lexi

Da iawn Ela Morfudd, William a Lexi am fynd i Ysgol Botwnnog i gyflwyno ein syniadau yng ngynulliad Gwyrdd ni bora ma.


17.2.23 - Crwydro’r Byd

Plant hyderus ac iach blwyddyn 1 a 2 yn perfformio dawnsfeydd o wahanol rannau o’r byd yn rhan o’n thema ‘Crwydro’r Byd’

I ble yr awn ni tymor nesaf tybed?


10.2.23 - Bedyddio Dafi a Lwsi

Cawsom brynhawn hyfryd yn bedyddio Dafi a Lwsi heddiw. Diolch yn fawr iawn i Anti Rhian am helpu ni i baratoi y gacan, ac i Mr Gwyn Rhydderch am gynnal y gwasanaeth yng Nghapel Rhydbach.


8.02.23 - Dawnsio Gwerin

Diolch i Tudur am ddod atom i gyflwyno dawns Gymreig i'r plant, y ddawns werin.

  • 100223-dawnsio
  • 100223-dawnsio-2
  • 100223-dawnsio-3

7.02.23 - Diwrnod Diogelwch y We

Llongyfarchiadau Ela am ennill y gystadleuaeth o gyflwyno camau diogelwch y we ym Mhont y Gof.


06.02.23 - Diolch Deintyddfa Glandwr

Cyflwynwyd sticeri i Lois yn Neintyddfa Glandwr heddiw i ddiolch iddynt am feirniadu’r gystadleuaeth dylunio sticer. Edrychwn ymlaen i weld plant yr ardal yn gwisgo’r sticeri. Diolch Deintyddfa Glandwr.

  • 060223-deintyddfa

03.02.23 - Cystadleuaeth athletau

Da iawn i’r criw awth i gystadleuaeth athletau ym Mhort heddiw.

  • 060223-athletau

27.01.23 - Croesawu criw Sefydliad y Merched

Braf cael croesawu criw Sefydliad y Merched i’r ysgol dydd Gwener diwethaf am baned a chacen. Cafodd plant Cyfnod Sylfaen y pleser i ganu iddynt.

  • 060223-sefydliad-merched

20.12.22 - Parti Nadolig

Cawsom amser gwych yn y parti Nadolig yn chwarae gemau am y prynhawn.

  • parti

19.12.22 - Sion Corn

Diolch Sion Corn am alw draw yng nghanol eich prysurdeb. Roedd pawb yn ddiolchgar iawn o'u anrhegion.

  • sion-corn

19.12.22 - Cwpan y Byd

Llongyfarchiadau i'r pedwar yma fu'n lwcus i ddewis tim Ariannin fel enillwyr. Maent wedi derbyn pêl yr un.

  • pel-droed

17.12.22 - Cystadleuaeth Dylunio Logo

Llongyfarchiadau i'r 1af a'r 2il ym mhob blwyddyn am ddylunio logo i'r Ddeintyddfa Glandwr. Roedd y gystadleuaeth yn rhan o'n gwaith thema ar Iechyd a Lles. Buom yn edrych ar sut i ofalu am ein dannedd.

  • logo

15.12.22 - Cinio Nadolig

Diolch yn fawr i Anti Marina ac Anti Lona am ginio Nadolig bendigedig eto eleni.

  • cinio-dolig

9.12.22 - Mentergarwch

Mae blwyddyn 1 a 2 wedi bod yn brysur yn gwneud dynion eira i'w gwerthu.

  • creu-dyn-eira
  • creu-dyn-eira-2

25.11.22 Cefnogi Cymru

Plant Pont y Gof wedi mwynhau cefnogi Cymru heddiw!
Gweld yr holl luniau


24.11.22 Dysgu am wenyn mêl, melysydd yn Oes y Tuduriaid.


23.11.22 Plant yn mwynhau yn y Clwb sgwters


22.11.22 Anthem Ysgolion Llŷn.


20.11.22 Diolch ArGraff Cymru

Diolch ArGraff Cymru am y print i’w lenwi. Yr hogia’ wrth eu boddau yn dod i mewn bob bore i’w lenwi.


21.11.22 Het fwced enfawr

Sylwch ar yr het fwced enfawr mae Blwyddyn 3 a 4 wedi bod wrthi yn ei wneud i’r bwgan brain wrth fynd heibio!
Pob lwc Cymru!


18.11.22 Plant Mewn Angen

Dyddiau prysur yn coginio cacennau er mwyn casglu arian at Plant Mewn Angen. Diolch yn fawr am eich cyfraniadau.
Thank you for your contribution towards Children In Need.


17.11.22 Bethan Gwanas

Pan ddaeth Bethan Gwanas draw cyn yr Haf fel rhan o wobr Harri am ennill gyda'i stori fer, defnyddiodd hi blant blwyddyn 4 a 5 i greu fideo byr i hyrwyddo ei llyfrau ar BorrowBox.


15.11.22 Edrychwch pwy ddaeth draw i'n gweld...Pudsey!


10.11.22 Byw’n Iach

Diolch i Magi a Cerys (Byw’n Iach) am ddod atom i roi sesiwn chwaraeon i blant blwyddyn 3, 4, 5 a 6.


10.11.22 Jambori yr Urdd

Pawb wedi mwynhau yn Jambori yr Urdd bore ‘ma ac yn canu’n dda! Pob Lwc Cymru yng Nghwpan y Byd!

  • Image
  • Image2

9.11.22 Sesiwn chwaraeon

Diolch i Magi a Cerys (Byw’n Iach) am ddod atom i roi sesiwn chwaraeon i blant blwyddyn 3, 4, 5 a 6.

  • Image3

28.10.22 Ein Gwasanaeth Diolchgarwch eleni

Codwyd £117.72 tuag at Plant Mewn Angen gyda phres y casgliad. Diolch i'r rhieni am eu cefnogaeth.


28.10.22 Cawsom wasanaeth gan Nia

Cawsom wasanaeth gan Nia heddiw, mor falch cael ei chroesawu yn ôl atom.

  • 311022-llun5

28.10.22 Cyngor Ysgol eleni

Dyma ein Cyngor Ysgol eleni.

  • 311022-llun4

28.10.22 Llongyfarchiadau Harri, Tomos ac Alan

Llongyfarchiadau Harri, Tomos ac Alan sydd wedi rhedeg y pellter mwyaf yn y clwb dal i fynd yn yr hanner tymor cyntaf. Daliwch ati.

  • 311022-llun-3

26.10.22 Tuduriaid i blant CA2

Diolch i Gwenda am ddod draw atom i gyflwyno hanes y Tuduriaid i blant CA2. Difyr iawn oedd gweld adeiladau Tuduraidd sydd o'n cwmpas ym Mhen Llŷn.

  • 311022-llun-1
  • 311022-llun-2

26.10.22 Rygbi a Hoci blwyddyn 5 a 6

Blwyddyn 5 a 6 wedi mwynhau’r rygbi a’r hoci heddiw. Pawb wedi bod yn blant ardderchog ac wedi chwarae’n dda iawn yn eu timau. Da iawn bawb.

  • 261022-bl-5-a-6

24.10.22 Cyngerdd Diolchgarwch

Cyngerdd Diolchgarwch

  • 261022-diolchgarwch

18.10.22 Rygbi a Hoci blwyddyn 3 a 4

Blwyddyn 3 a 4 wedi cael amser da iawn yn y Rygbi a’r Hoci heddiw. Pawb wedi chwarae yn dda iawn a phawb wedi bod yn blant da iawn. Pleser mynd a nhw.

  • 261022-bl-3-a-4

12.10.22 Ysgol Abererch

Daeth plant blwyddyn 5 a 6 Ysgol Abererch draw am gêm o bêl rwyd a phêl droed. Trueni am y tywydd! Cafodd blwyddyn 3 a 4 gyfle i greu ffrindiau newydd hefyd wrth groesawu blwyddyn 3 a 4 Ysgol Abererch i'r dosbarth i greu addurniadau i'r ardd wyllt. Gobeithio cawn drefnu eto yn fuan.

  • 261022-ysgol-abererch
  • 261022-ysgol-abererch-b

10.10.22 Lois draw o Ddeintyddfa Glandwr

Dydd Llun diwethaf daeth Lois draw o Ddeintyddfa Glandwr i egluro ei gwaith bob dydd. Cyflwyniad difyr iawn a’r plant wedi mwynhau yn ei chwmni.

Diolch iddi am ei hamser.

  • 261022-deintyddfa-glandwr
  • 261022-deintyddfa-glandwr-b

03.10.22 Wythnos beicio i’r ysgol

Mae hi’n wythnos feicio i’r ysgol. Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus ar gael ein derbyn ar gynllun Teithiau Iach. Byddwn yn ceisio annog y plant i feddwl am yr amgylchedd wrth deithio o le i le.

Dyma rai o’r plant sy’n beicio i’r ysgol yn gyson.

  • 261022-beicio

23.9.22 Sesiwn arwyddo

Sesiwn arwyddo hefo Ceri a Sian dydd Gwener. Plant wedi cael cyfle i arwyddo i ganeuon Cymraeg poblogaidd.

  • 031022-arwyddo
  • 031022-arwyddoo

20.9.22 Sgwters

Mae Ysgol Pont y Gof wedi bod yn llwyddiannus wrth i Sustrans dderbyn ein cais i fod yn rhan o gynllun Ysgol Teithiau Iach. Daeth Debbie Humphreys draw i gyflwyno'r cynllun i'r plant ac i roi hyfforddiant i ni ar ddefnyddio'r sgwteri yn ofalus.

  • 031022-sgwters1
  • 031022-sgwters1
  • 031022-sgwters2

16.9.22 Sied feics

Mae ganddom ni blant ffodus iawn yn Ysgol Pont y Gof wedi cael clamp o sied feics i ddal yr holl sgwteri newydd da ni wedi’i brynu gyda’r arian a godwyd o’r triathlon cyn yr Haf.
Hoffwn ddiolch yn fawr i’r plant a’u rhieni sydd wedi llwyddo i gasglu arian noddi ac i’r cwmnïau isod am ein cefnogi yn yr ymgyrch arbennig yma i godi £4,743.
Gwalch
Gwyliau Fferm Crugeran
T Newydd, Sarn
Kin & Co Abersoch
Griffith Williams & Co
SJ & S Williams
Dewi Wyn
G & S Supplies
Ashley Hughes
ac i Cariad Care Homes am brynu y sied i ni.
Bydd pawb yn cadw'n ffit yn Ysgol Pont y Gof rwan!
Diolch i bawb am gefnogi.

  • 031022-sied-feics

15.9.22 Smoothies

P‘nawn difyr ddoe yn blasu smwddi bendigedig Swig. Braf cael clywed Tom yn egluro sut mae wedi dechrau ei fusnes ei hun, maen hynod lwyddiannus. Cafodd y plant gyfle i greu eu smwddi eu hunain hefyd!

  • 031022-smoothies
  • 031022-smoothiess
  • 031022-smoothiesss

12.9.22 Dosbarthu woodchip

Diolch yn fawr iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Y Rhiw am helpu i ddosbarthu woodchip ar lawr y parc.

  • 031022-woodchip
  • 031022-woodchip1

10.9.22 Coedlan

Diolch yn fawr i gwmni Gwalch am greu llain addysg yn y goedlan i ddisgyblion a chymuned lleol. Ardal wych i ddysgu am fywyd gwyllt Ysgol Pont y Gof ! Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cynorthwyo ni hefo'r prosiect. Edrychwn ymlaen i wneud defnydd da o hono!

  • 031022-oedlan
  • 031022-coedlan1

6.9.22 Criw cerdd

Diolch i’r criw Cerdd am ddod i gyflwyno gwahanol offerynnau i’r plant, roedden nhw yn wych wrth iddynt gyflwyno llawer o ganeuon cyfoes.


5.9.22 Sied

Diolch yn fawr
Mae’r cwt beics wedi mynd i’w le yn daclus. Prynwyd y cwt gyda’r arian godwyd wrth i’r plant wneud triathlon cyn yr haf. Da iawn nhw

15.7.22 Pob lwc blwyddyn 6

Gobeithio wnewch chi gyd fwynhau eich gwyliau Haf. Edrychwn ymlaen i'ch croesawu yn ôl ym mis Medi.


14.7.22 Tyfu tatws

Plant y Cyfnod Sylfaen wedi cael hwyl dda ar dyfu tatws tymor yma.


11.7.22 Trip Traeth CS

Aeth y Cyfnod Sylfaen i draeth Porthdinllaen am ddiwrnod o hwyl.


11.7.22 PC Rhiannon

Diolch i PC Rhiannon am ddod draw i egluro ychydig mwy i ni am ddiogelwch y We.

  • 180722-pc-rhiannon

8.7.22 Gwasanaeth Ffarwel Blwyddyn 6

Diolch am fod yn griw gwych sy'n llawn brwdfrydedd. Pob lwc i chi gyd ym Motwnnog.

  • 180722-ffarwelio
  • 180722-ffarwelio-2

5.7.22 Trip Traeth CA2

Ar ôl bod yn y Ganolfan yn Nofio, aeth plant CA2 i draeth Pwllheli i chwarae gemau cyn mynd i caffi Largo am hufen iâ blasus.


6.7.22 Codio Technocamps

Diwrnod difyr i flwyddyn 3 a 4 heddiw diolch i Technocamps. Plant wedi bod wrth eu boddau yn codio gyda lego a meddalwedd crumble. Llongyfarchiadau i George a Morgan ar lwyddo i wneud y raglen codio gorau.

  • 1

5.7.22 Cyngerdd Codi Calon

Diolch o waelod calon i bawb am wneud ein Cyngerdd Codi Calon yn noson lwyddiannus.
Hynod ddiolchgar i Anni Llŷn am arwain y noson a pherfformio, diolch i Glesni Owen, Criw o genod CFfI Y Rhiw, Emma Marie, ac wrth gwrs i blant Pont y Gof am eu perfformiadau hwyliog.
Diolch i’r Gymdeithas Rieni am ddarparu te a choffi a chacennau blasus. Diolch hefyd i’r gynulleidfa, mor braf gweld iard yr ysgol yn llawn dop.
Diolch i Mr Geraint Hughes am ei gydweithrediad parod bob amser, noson lwyddiannus iawn i godi arian tuag at Eglwys Llandegwnning.

  • 4

1.7.22 Triathlon

Dyna ddiwrnod! Diolch byth fod y glaw wedi cadw draw tan 3:30. Mae plant Pont y Gof wedi bod yn gweithio'n galed yn y triathlon heddiw i godi arian i'r ysgol er mwyn cael sied feics newydd. Da iawn i bob un ohonyn nhw am wneud eu gorau glas drwy redeg, nofio a beicio. Anhygoel!

  • 3

24.6.22 Plas Menai

Cafodd blwyddyn 4, 5 a 6 fynd i Plas Menai i aros am noson. Roedd pawb mor gyffrous. Aethom yno yn syth ar ôl i'r ysgol orffen. Aethom yn syth i'r neuadd i gael cyflwyniad gan ein mentorau ac yna i fyny i'r gegin i gael swper blasus. Cawsom ffilm cyn mynd i'n gwlâu... mi gysgodd rhai yn dda... eraill ddim cystal! Dydd Sadwrn, cawsom fynd ar Afon Menai i badl fyrddio, roedd 10 yn gallu mynd ar un padl fwrdd. Cawsom bicnic i ginio ac yna aethom i'r neuadd i chwarae gemau am y prynhawn cyn dechrau yn ôl am adref.

  • 2

22.6.22 Gwersi Addysg Bersonol a Pherthnasau

Dyna braf oedd cael croesawu Myfi sy’n dri mis oed a Cadi sy’n dair oed i’n dosbarth heddiw yn rhan o’r gwersi addysg bersonol a pherthnasau. Roedd pawb wedi dotio ac wedi dysgu llawer am y datblygiad o fabi i blentyn. Diolch Gwenan.

  • addysg-bersonnol-1
  • addysg-bersonnol-2

20.6.22 Diwrnod hyfryd i fwynhau’r mabolgampau a’r ffair haf.

Diwrnod hyfryd i fwynhau’r mabolgampau a’r ffair haf

Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r plant am wneud eu gorau. A da iawn tîm Neigwl Diolch i chi gyd am ddod i gefnogi.

  • mabolgampau1
  • mabolgampau-2
  • mabolgampau-3

18.6.22 Cynnyrch ffair haf

Mae genod blwyddyn 3, 4, 5 a 6wedi bod yn brysur yn creu scrunchies i'w gwerthu yn y ffair haf eleni.
https://www.youtube.com/shorts/f3kvesKaQ4Q

Tra fod merched Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn gwneud 'scrunchies', mae'r hogia' wedi bod yn brysur yn gwneud potiau blodau hyfryd i'w gwerthu yn y ffair haf.

  • blodau

14.6.22 Sioe Twm Sion Cati yn Pontio ac yna ymlaen i Gastell Penrhyn!

Diwrnod i’r gofio yn gwylio sioe Twm Sion Cati yn Pontio ac yna ymlaen i Gastell Penrhyn! Yr haul yn tywynnu a phawb yn mwynhau.

  • pontio-1
  • pontio-2
  • pontio-3

12.6.22 - Parti adrodd yn Gwyl y Babell Llên fach

Parti adrodd yn Gwyl y Babell Llên fach bore ddoe yn Neuadd Dwyfor Pwllheli. Diolch iddyn nhw am fynd i gefnogi.

  • neuadd-dwyfor

30.5.22 Eisteddfod yr Urdd

Da iawn Lois Jones blwyddyn 3 a'r criw llefaru yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Ninbych. Diolch i Rhian, Anni a Catrin am eu dysgu.

  • llefaru
  • lois

25.5.22 - Priodas Matholwch a Branwen

https://www.youtube.com/watch?v=_npUUSIQ9lg&fbclid=IwAR2KMlBO-FpteifznYnjSrkszypls2z7YQB_k_1yJz_OwERXfuUXizJR_88


20.5.22 - Daeth Sara draw o Gwyrdd Ni i roi cyflwyniad i flwyddyn 3, 4, 5 a 6

Daeth Sara draw o Gwyrdd Ni i roi cyflwyniad i flwyddyn 3, 4, 5 a 6 am yr hinsawdd a'r tywydd. Diolch iddi am ei hamser a chyflwyniad difyr iawn.

  • 200522-sara-o-gwyrdd-ni

19.5.22 - Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn cymharu ffermio heddiw ac ers talwm.

Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn cymharu ffermio heddiw ac ers talwm. Diolch i Harri a Dylan o fferm Crugeran am ddod i gneifio o flaen y plant.

  • 190522-cyfnod-sylfaen-ffermio-1
  • 190522-cyfnod-sylfaen-ffermio-2

19.5.22 - Blwyddyn 3 a 4 yn brysur yn creu cartiau

Ar ôl eu hymweliad yn Amgueddfa Chwarel Llanberis, mae blwyddyn 3 a 4 yn brysur yn creu cartiau gan ddefnyddio motor i gario llechi.

  • 190522-amgueddfa-chwarel-llanberis-1
  • 190522-amgueddfa-chwarel-llanberis-2
  • 190522-amgueddfa-chwarel-llanberis-3

18.5.22 - Daeth Lad y ci bach i'r ysgol at flwyddyn derbyn a meithrin.

Daeth Lad y ci bach i'r ysgol at flwyddyn derbyn a meithrin. Cafodd y plant gyfle i ddysgu sut i ofalu am anifail anwes, roedd pawb yn mwynhau cael mwythau gyda'r ci bach.

  • 180522-lad-y-ci-1
  • 180522-lad-y-ci-2
  • 180522-lad-y-ci-3

18.5.22 - Blwyddyn 5 a 6 wedi chwarae’n arbennig o dda heddiw yn y gemau hoci ym Mangor.

Criw o flwyddyn 5 a 6 wedi chwarae’n arbennig o dda heddiw yn y gemau hoci ym Mangor. Da iawn chi!

  • 180522-hoci

18.5.22 - Aeth plant blwyddyn 3 a 4 i Eglwys Llandegwnning i barhau gyda'u gwaith tacluso

Yn y bore, aeth plant blwyddyn 3 a 4 i Eglwys Llandegwnning i barhau gyda'u gwaith tacluso a chael trefn gyda Mr Geraint Hughes.

  • 180522-eglwys-llandegwnning-1
  • 180522-eglwys-llandegwnning-2
  • 180522-eglwys-llandegwnning-3

28.5.22 Amgueddfa Lechi Llanberis

Diwrnod hynod ddifyr ddoe i flwyddyn 4, 5 a 6 yn Amgueddfa Lechi Llanberis.
Mwy o luniau yma; https://drive.google.com/drive/u/0/folders/1-ol9-x7CLiwKyeYy2RcSdc8Xan7XrC-r


12.5.22 Diolch i Harri Morus am ei lwyddiant gyda’i stori fer yng nghystadleuaeth BBC Radio Cymru

Diolch i Harri Morus am ei lwyddiant gyda’i stori fer yng nghystadleuaeth BBC Radio Cymru, cawsom y fraint o fod yng nghwmni Bethan Gwanas bore heddiw. Bore difyr dros ben! Cyflwynwyd pecyn o lyfrau gan Cyngor Llyfrau Cymru iddo fel gwobr am ei waith.
Diolch Bethan am sesiwn hwyliog a lot o chwerthin! A diolch i’r Cyngor Llyfrau am y llyfrau!

  • 130522-16
  • 130522-15-2

12.5.22 Trip ysgol i Plas yn Rhiw

Aeth y Cyfnod Sylfaen ar drip ysgol i Plas yn Rhiw a cawson nhw ddysgu am y byd a'r natur o'u cwmpas gyda Robert Parkinson. Diolch iddo am fore difyr. Bwytodd pawb eu picnic yno cyn mynd draw i fferm Trygarn i'w gweld yn godro'r gwartheg. Diolch i Rhys ac Eifion am y croeso cynnes, roedd pawb wedi mwynhau.

  • 130522-20
  • 130522-14
  • 130522-19
  • 130522-14

11.5.22 Garddio

Mae Mr Geraint Hughes yn dod at blwyddyn 5 a 6 i arddio pob prynhawn dydd Mercher. Edrychwn ymlaen i gael trefn ar yr ardd yn ystod y tymor, gan obeithio bydd cynnyrch yn ddigon da i'w werthu!

  • 130522-17

5.5.22 Llongyfarchiadau mawr i Gareth Williams

Llongyfarchiadau mawr i Gareth Williams ar gael ei ethol fel cynghorydd dros ben draw Llyn.


5.5.22 Gwaith cynnal a chadw yn Eglwys Llandegwnning

Mae blwyddyn 3 a 4 yn cyd weithio gyda Mr Geraint Hughes a thrigolion yr ardal i wneud gwaith cynnal a chadw yn Eglwys Llandegwnning. Wedi mwynhau yno yn y tywydd braf.

  • 130522-4

2.5.22 Sioe Nefyn

Llongyfarchiadau mawr i bawb gymerodd ran yn Sioe Nefyn. Dyma luniau o rai a dderbyniodd dystysgrif am eu gwaith celf.
Llongyfarchiadau i bawb arall fu’n cystadlu yn ystod y dydd hefyd.

  • 130522-1
  • 130522-2
  • 130522-3

6.5.22 Bwgan brain

Mae dosbarth derbyn wedi bod yn greadigol yn creu bwgan brain newydd i’r ysgol. Allwch chi helpu ni feddwl am enw i’r bwgan brain?

  • 130522-5

8.4.22 Llongyfarchiadau i Guto ar ennill y raffl Pasg

Llongyfarchiadau i Guto ar ennill y raffl Pasg. Gobeithio y gwnes di fwynhau’r holl siocled Guto. Diolch i bawb am gefnogi.

  • 130522-12

28.4.22 Trac newydd sbon o amgylch y cae

Dechrau tymor newydd gyda thrac newydd sbon o amgylch y cae. Pawb wrth eu boddau yn cael defnyddio'r trac.

  • 130522-7
  • 130522-6

26.4.22 Trip i'r Cwt Gafr

Y Dosbarth Meithrin wedi mwynhau eu hunain ar eu trip i'r Cwt Gafr.

  • 130522-13

 


2.4.22 - Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau enfawr i bawb fu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Llwyddodd y parti llefaru i ddod yn gyntaf, diolch yn fawr i Rhian Parry am eu dysgu.
Cafodd Lois 1af yn yr unawd a 3ydd yn y llefaru a chafodd Llio 3ydd yn yr alaw werin.
Pob lwc i bawb sydd yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod yn Ninbych.

  • eisteddfod-yr-urdd-1-lrg
  • eisteddfod-yr-urdd-2-lrg
  • eisteddfod-yr-urdd-3-lrg

31.3.22 - Cyflwyniad gan Helen o Fanc HSBC

Diolch i Helen am gyflwyniad difyr ar sut i warchod ein harian.

  • cyflwyniad-helen-o-hsbc-lrg

31.3.22

Llongyfarchiadau enfawr i Harri Morus Griffiths ar ennill cystadleuaeth ysgrifennu stori fer Aled Hughes ar BBC Radio Cymru rhwng oedran 7 a 9. Mae Harri wedi bod yn sgwrsio gyda Al Hughes a Mari Lovegreen bore ma, ewch ar BBC Sounds i wrando yn ôl i gael yr hanes am ei stori fer.

  • llongyfarchiadau-i-harri-morus-griffiths-lrg

30.3.22 - Cyflwyniad Ffrindiau Dementia i CA2

Braf gallu croesawu siaradwyr gwadd yn ôl i’r ysgol ,daeth Mirain Llwyd atom ddoe i drafod Dementia.

  • ffrindiau-dementia-ca2-1-lrg
  • ffrindiau-dementia-ca2-2-lrg

29.3.22 - Coleg y Bala - Blwyddyn 5 a 6

Tro blwyddyn 5 a 6 oedd hi i fynd i Goleg y Bala heddiw ac mae nhw wedi mwynhau eu hunain yno yn y tywydd braf.

  • coleg-bala-5-a-6-lrg

28.3.22 - Coleg y Bala - Blwyddyn 3 a 4

Mae blwyddyn 3 a 4 wedi cael diwrnod da iawn yng Ngholeg y Bala heddiw yn gwrando ar hanes y Pasg. Diolch yn fawr iawn iddynt am y croeso.

  • coleg-bala-3-a-4-lrg

25.3.22

Mae'r dosbarthiadau wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnos yn creu anrhegion Sul y Mamau.

  • 250322-1
  • 250322-2

23.3.22

Daeth y Parchedig Kevin Ellis draw a cawsom wasanaeth eithaf gwahanol - gwers ar sut i goginio bara mewn 50 eiliad!

  • 230322-4
  • 230322-5

23.3.22 Clwb ar ol ysgol y Cyfod Sylfaen.

Cerddom ni o amgylch y pentref a chael sgwrs gyda'n cymdogion. Diolch i Carys a'r genod am ddangos yr wyn llwarth i'r criw. Yna, aethom yn ol i'r ysgol i gael gemau ar y cae yn y tywydd braf.

  • 230322-1
  • 230322-2
  • 230322-3

22.3.22

Diwrnod da iawn heddiw yn y rygbi. Y criw wedi chwarae yn andros o dda ac wedi mwynhau ei hunain! Da iawn i bob un am wneud eu gorau. Braf cael mynd yn ôl i gystadleuaeth chwaraeon unwaith eto, mwy o gyfleoedd i ddod.

  • 220322-1
  • 220322-2

18.3.22

Cafodd pawb gyfle i fwynhau y cacennau bendigedig roeddent wedi bod wrthi yn brysur yn eu gwneud.

  • 180322-newyddion-1-lrg
  • 180322-newyddion-2-lrg
  • 180322-newyddion-3-lrg
  • 180322-newyddion-4-lrg
  • 180322-newyddion-5-lrg

17.3.22

Diolch o waelod calon i bawb am eu rhoddion hael tuag at gronfa Wcrain. Mae’r holl nwyddau wedi dechrau ar eu taith o Bont y Gof tuag at ffiniau Wcrain. Anhygoel. Thank you very much, these bags and boxes and all of the donations have started on their journey to the Ukraine’s border. Pobi Heddiw hefyd, mi fu pawb yn yr ysgol yn brysur yn pobi cacennau bach i'w gwerthu ddydd Gwener er mwyn casglu arian tuag at bobl Wcrain.

  • 170322-newyddion-1-lrg
  • 170322-newyddion-2-lrg

17.3.22

Cynhaliwyd clwb chwaraeon ar ôl ysgol i blant y Cyfnod Sylfaen. Pawb wedi mwynhau!

  • 160322-newyddion-1-lrg
  • 160322-newyddion-2-lrg
  • 160322-newyddion-3-lrg

17.3.22

Daeth Huw Griffiths i'r ysgol i gyflwyno cân y dalgylch. Rydym yn gyffrous iawn i glywed gweddill y gân a gallu ei chanu i gyd.

  • 170322-newyddion-3-lrg
  • 170322-newyddion-4-lrg

16.3.22

Criw o flwyddyn 6 wedi mwynhau yn yr athletau heddiw ac wedi gwneud eu gorau glas.


10.3.22

Dyma ni pawb wedi mwynhau wythnos arall o goginio. Pwdin i blesio'r dant melys wythnos yma

  • coginio-1
  • coginio-2
  • coginio-3
  • coginio-4
  • coginio-5
  • coginio-6



9.3.22

Diolch i'r parchedig Kevin am ddod i'r ysgol i roi gwasanaeth. Dysgom ni beth oedd pwrpas gwahanol rannau o'i wisg a'r rhesymau am y lliwiau gwahanol.

  • parchedig-kevin-1
  • parchedig-kevin-3
  • parchedig-kevin-4
  • parchedig-kevin-5
  • parchedig-kevin-6
  • parchedig-kevin-7
  • parchedig-kevin2


Braf cael croesawu Gwenllian o’r tîm ailgylchu dydd Mercher i egluro beth maen nhw’n ei wneud yn y gwaith a beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn gwarchod yr amgylchedd.

  • ailgylchu-1
  • ailgylchu-2
  • ailgylchu-3

6.3.22

Agorwyd siop cyfnewid llyfrau eleni. Daeth pawb a llyfr oeddent wedi cael digon ohono i'r ysgol a'i gyfnewid gyda llyfr rhywun arall.

  • 1
  • 2
  • 3

5.3.22

Diolch yn fawr iawn i Wil Parry o Ynni Llŷn am ddod i ddangos car trydan i blant y Cyfnod Sylfaen.

  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8

3.3.22

Mwynhau yn y clwb.

  • 030222-1-lrg
  • 030322-2-lrg
  • 030322-3-lrg
  • 030322-4-lrg

3.3.22

‘Catwalk’ difyr yn llawn cymeriadau lliwgar bore heddiw. Diolch i bawb am fynd i ymdrech arbennig. Roedd pawb yn werth eu gweld.


2.3.22

Mae bwrlwm y clybiau wedi cychwyn gyda plant y Cyfnod Syflaen yn paratoi pitsa i swper heno.

  • 020322-1-lrg
  • 020322-2-lrg
  • 020322-3-lrg

1.3.22

Dyma blwyddyn 3 a 4 yn ceisio troi eu crempogau yn y badell... ambell un wedi perffeithio'r grefft...ambell un arall angen 'chydig o ymarfer...

  • 010322-1-crempog-lrg
  • 010322-2-crempog-lrg
  • 010322-3-crempog-lrg
  • 010322-4-crempog-lrg
  • 010322-5-crempog-lrg
  • 010322-6-crempog-lrg


1.3.22

Dydd Gwyl Dewi Hapus i Bawb. Gwnewch y pethau bychain!

  • 010322-1-lrg
  • 010322-2-lrg
  • 010322-3-lrg
  • 010322-4-lrg
  • 010322-5-lrg
  • 010322-6-lrg

17.2.22

Mae blwyddyn 3 a 4 wedi dysgu stori Rhys a Meinir ar eu cof wythnos yma gyda'r symudiadau.


16.2.22

Cafodd blwyddyn 1 a 2 groeso mawr gan y busnesau lleol heddiw wrth ddosbarthu eu posteri a sticeri ailgylchu o gwmpas yr ardal.

  • posteri-1
  • posteri-2
  • 7
  • posteri-4
  • posteri-5
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6-sml

15.2.22

Sioe Mewn Cymeriad - Owain Glyn Dŵr ein arwr cenedlaethol

Diolch i Gwion am gyflwyno ei hanes i flynyddoedd 3, 4, 5 a 6.

  • 150222-1-lrg
  • 150222-2-lrg
  • 150222-3-lrg
  • 150222-4-lrg

15.2.22

Mae plant Cyfnod Sylfaen wedi bod yn brysur yn casglu llawer o sbwriel ar draeth Towyn heddiw ac ymlaen i weld y tyrbein gwynt yn Crugeran ar y ffordd adref. Roedd pawb wedi mwynhau.


11.2.22

Wythnos Iechyd Meddwl plant. Dyma'r Cyfnod Sylfaen yn cael sesiwn meddwlgarwch.

  • bl1a2-3
  • meithrin-2
  • meithrin-3

Blwyddyn 1 a 2

  • bl1a2
  • bl1a2-2
  • bl1a2-3

10.2.22

Diwrnod gwerth chweil yn Nant Gwrtheyrn. Diolch iddynt am y croeso. Pawb wedi mwynhau dysgu am hanes y pentref bach hudolus ac wedi gwneud yn arbennig o dda i gerdded i fyny'r allt serth!

  • 100222-1-lrg
  • 100222-2-lrg
  • 100222-3-lrg
  • 100222-4-lrg

10.2.22

Diolch am yr holl boteli llefrith, mae dosbarth y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn brysur yn adeiladu iglw.

  • iglw-1
  • iglw-2
  • iglw-3
  • iglw-4
  • iglw-5

8.2.22 - Gwarchod yr Amgylchedd

Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn dysgu sut i ofalu am yr amgylchedd. Cofiwch chi wneud run peth.


7.2.22

Mae blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn efelychu gwaith yr artist Cymreig, Lisa Eurgain. Dyma luniau o Garn Fadryn, Y Rhiw ac Ynys Enlli.

  • 070222-1-lrg
  • 070222-2-lrg

3.2.22

Diwrnod llawn hwyl yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Cawsom groesawu Edwin i'r ysgol gyda'i offerynnau amrywiol, a diolch i Mrs Jones am baratoi cwis i ni. Diwrnod penigamp yn gwerthfawrogi cerddoriaeth Gymraeg o bob math.

  • 030222-1-lrg
  • 030222-2-lrg
  • 030222-3-lrg

2.2.22

Diolch o waelod calon i Tudur Phillips am ddod i'r ysgol i ddangos ei dalentau ac am roi sesiwn Clocs Ffit i bawb yn yr ysgol.
Pawb wedi mwynhau yn arw.
Llongyfarchiadau i Ianto Pattinson, William a George am lwyddo i neidio dros yr hances 9 gwaith!!
'Dwi'n siwr fod llawer wedi mynd adref i ymarfer neidio dros hances...

  • 020222-1-lrg
  • 020222-2-lrg
  • 020222-3-lrg
  • 020222-4-lrg
  • 020222-5-lrg

1.2.22

Dathlu’r flwyddyn newydd Tsieinaidd, diolch i staff y gegin am goginio pryd Tsieiniaidd bendigedig i ni.

  • 010222-1-lrg
  • 010222-2-lrg
  • 010222-3-lrg
  • 010222-4-lrg

29.1.22

Cafodd blwyddyn 5 brofiad go wahanol heddiw wrth weithio gyda cyflwynydd Radio Cymru Marc Griffiths i greu podlediad. Gobeithio cawn glywed y podlediad yn fuan.

  • 290122-1-lrg
  • 290122-2-lrg
  • 290122-3-lrg

28.1.22

Blwyddyn 5 a 6 yn mwynhau yn y Clwb Cyfrifiadur.

  • 280122-1-lrg
  • 280122-2-lrg
  • 280122-3-lrg

25.1.22 - Dathlu penblwydd Urdd Gobaith Cymru yn 100 mlwydd oed.

Cyfrannodd CA2 tuag at dorri record y byd gyda Urdd Gobaith Cymru drwy uwchlwytho fideos ar y we ohonynt yn canu can Mistar Urdd.

Cafodd Cyfnod Sylfaen barti yn y bore i ddathlu penblwydd Mistar Urdd, gyda llond lle o gacennau blasus a digon o weithgareddau hwyliog!

  • newyddion-1-lrg
  • newyddion-2-lrg
  • newyddion-3-lrg

25.1.22 - Dathlu Dydd Santes Dwynwen

Mi fuodd Blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn coginio bisgedi siap calonnau. A bu blwyddyn 3 a 4 yn brysur yn defnyddio eu sgiliau TGCH creadigol i greu cerdyn.

  • newyddion-4-lrg
  • newyddion-5-lrg
  • newyddion-8-lrg

23.1.22

Ers dod yn ôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, mae Miss Jones wedi bod yn cynnal sesiwn ffitrwydd yn ystod amser chwarae.

  • newyddion-6-lrg
  • newyddion-7-lrg

22.12.21

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, gan holl staff ysgol Pont y Gof.


21.12.21

Llwyddodd blwyddyn 3 a 4 i werthu 58 o goed Nadolig eleni. Gnaethpwyd £112.25 o elw. Hefyd, llwyddom i werthu 52 copi o bapur newydd y Gof, felly roedd hynny'n £52 ychwanegol.


21.12.21

Mae blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn cael gwersi recorder gan Mrs Catrin Jones yn ystod y tymor, ac mae Ela yn cael gwersi’n wythnosol. Dyma gân Nadoligaidd i uno pawb. Mwynhewch


20.12.21

Daeth Sion Corn heibio gyda llond y sach o anrhegion i'r plant. Lwcus iawn.


19.12.21

Mi fu y Cyfnod Sylfaen a blwyddyn 3 a 4 yn coginio bisgedi blasus wythnos yma.


17.12.21

Perfformiwyd dau gyngerdd Nadolig eleni. Un yn y Cyfnod Sylfaen a'r llall gan yr ysgol gyfan. Hanes Babwscha oedd ein cyngerdd eleni.

Dilynwch y linc i fynd i weld cyngerdd Nadolig plant y Cyfnod Sylfaen.


15.12.21

Tro y Cyfnod Sylfaen oedd hi heddiw i gael noson hwyr ar ol ysgol yn chwarae gemau gwirion. Cafodd pawb lawer o hwyl.


15.12.21 - Diwrnod Siwmperi Nadolig

Diolch yn fawr i staff y gegin, Anti Marina, Anti Lona ac Anti Carys am y cinio bendigedig heddiw. Pawb wedi mwynhau’r cinio yn ofnadwy, blasus iawn.


14.12.21

Daeth y Tad Kevin i'r ysgol i gynnal sesiwn Christingl gyda blwyddyn 5 a 6. Diolch yn fawr iawn iddo am ei amser, roedd y plant wedi mwynhau yn fawr. Cawsom ddigon o orenau i bawb yn yr ysgol gael cyfle i wneud christingl hefyd.


13.12.21

Cynhaliwyd noson ffilm yn y neuadd i blant Cyfnod Allweddol 2. Home Alone oedd y ffilm ddewiswyd gan bawb.


10.12.21 Sioe Yr Heriau Hurt Dydd Mercher

Wel am sioe dda. Lot o chwerthin, gweiddi a chael gwneud pethau hollol hurt! Diolch @trydanni @Twudur a Megan Llŷn. 👏🏼👏🏼👏🏼

  • sioe-heriau-hurt-1-lrg
  • sioe-heriau-hurt-2-lrg
  • sioe-heriau-hurt-3-lrg
  • sioe-heriau-hurt-4-lrg

10.12.21

Mae Seiri’r Gof yn brysur y Nadolig hwn yn creu addurniadau i’w gwerthu fel rhan o’u prosiect mentergarwch.


6.12.21 Sioe Cymeriad Roald Dahl

Diolch yn fawr i Tudur am y sioe mewn cymeriad- Roald Dahl.
Pawb wedi mwynhau dysgu am yr awdur enwog.

  • roald-dahl-1-lrg
  • roald-dahl-2-lrg

19.11.21 Diwrnod Plant Mewn Angen

Llongyfarchiadau mawr i bawb am lwyddo i redeg/cerdded 281 milltir yn yr ysgol heddiw ar gyfer her #Amdani21 @BBCRadioCymru a @boimoel.
Anhygoel 👏🏼
Rydym wedi casglu swm o £140.50 tuag at yr achos arbennig.

  • 241121-her-1
  • 241121-her-2
  • 241121-her-3
  • 241121-her-4

12.11.21

  • newyddion-12-11-21-1
  • newyddion-12-11-21-2

10.11.21

Diolch i Tudur am gyflwyniad i Dudalen y Plant yn ein papur bro, Llanw Llŷn.
Rwy’n siwr y bydd sawl un o’r plant yn mynd ati i feddwl am syniadau creadigol i’w cynnwys ar y dudalen mis nesaf.

  • newyddion-10-11-21-1
  • newyddion-10-11-21-2
  • newyddion-10-11-21-3
  • newyddion-10-11-21-4

5.11.21 Y Carped Coch!

Pawb yn edrych yn hynod smart yn eu gwisgoedd heddiw. Y grwpiau wedi gweithio'n galed i greu y ffilmiau ac yn sicr wedi cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau creadigol gyda'r holl waith perfformio a golygu.
Mi fydd heddiw'n ddiwrnod i'w gofio i bawb rwy'n siwr.
Ewch draw i wefan Youtube yr ysgol i weld eu campweithiau!

  • newyddion-5-11-21-1
  • newyddion-5-11-21-2
  • newyddion-5-11-21-3
  • newyddion-5-11-21-4

5.11.21 Derbyn eu gworbrau wrth gerdded hyd y Carped Coch



2.11.21

Ar y dydd Gwener cyn y gwyliau, cafodd plant blwyddyn 3, 4, 5 a 6 gyfle i arddangos eu dyfeisiau difyr.
Wel am anhygoel, roedd pawb wedi bod wrthi yn ddiwyd yn gwneud eu dyfais arbennig eu hunain. Roedd gwaith pob un ohonynt yn werth eu gweld.
Da iawn chi blant.

  • newyddion-2-11-21-1
  • newyddion-2-11-21-2

23.10.21 Dyma ein gwasanaeth Diolchgarwch eleni.



15.10.21 Sêr yr Wythnos

  • 1510210ser-yr-wythnos-3

15.10.21 Sêr yr Wythnos

  • newyddion-15-11-21-1

14.10.21 Diolch yn fawr iawn Rhys Gwyn Roberts

Diolch o waelod calon i Rhys eto am daith hynod ddifyr.
Y plant wedi dysgu llawer ac wedi mwynhau yn arw er gwaetha Morus y gwynt!
Diolch yn fawr iawn Rhys Gwyn Roberts

  • morus-1
  • morus-2
  • morus-3
  • morus-4
  • morus-5
  • morus-6

10.10.21 Sêr yr Wythnos

  • ser-2

3.10.21 Sêr yr Wythnos

  • ser-1

27.9.21 Dosbarth cadw'n heini ar-lein gyda Dementia Actif Gwynedd.

Cafodd y Cyfnod Sylfaen ddosbarth cadw'n heini ar-lein gyda Dementia Actif Gwynedd. Ar ddiwedd y sesiwn mi ganodd y plant i'r bobl. Roedd aelodau Dementia Actif wrth eu boddau, gobeithio cawn wneud hyn eto yn fuan!

  • dementia

20.9.21 Mynd am dro i Garnfadryn

Ar ddechrau'r wythnos cafodd plant y Cyfnod Sylfaen fynd am dro i Garnfadryn a chael dod i adnabod yr ardal yn well gyda Rhys Gwyn Roberts. Diolch o waelod calon iddo, roedd hi'n daith hynod o ddifyr. Roedd y plant wedi mwynhau yn arw ac wedi dysgu llawer am yr ardal a'r byd natur.

  • garn-1
  • garn-2
  • garn-3
  • garn-4
  • garn-5

03.09.21 Croeso!

Eleni, rydym yn croesawu 9 o blant bach i'r ysgol. Gobeithio y cewch amser arbennig yma ym Mhont y Gof.

  • 241121-croeso

16.7.21 Hwyl fawr blwyddyn 6
Diolch i chi gyd a phob lwc yn ysgol Botwnnog! Gwnewch eich gorau glas.

  • bl6

15.7.21 Diolch Miss Thomas
Diolch Miss Thomas am eich holl waith caled. Mi fyddwn yn eich methu yma ym Mhont y Gof. Dymuniadau gorau i chi.
  • miss-thomas

15.7.21 Hwyl Dŵr
Cawsom ddiwrnod hwyl dŵr ac wir i chi, mi gawson ni lawer o hwyl. Roedd pawb yn wlyb ar ei groen.
  • hwyl-dwr
  • hwyl-dwr-1
  • hwyl-dwr-2

14.7.21 Y Gof ar werth!

https://www.youtube.com/watch?v=eLPXc7jhn38


13.7.21 Tatws
Tatws newydd o’r ardd heddiw, a blwyddyn 2 wedi cael rhannu’r tatws i fynd adref gyda nhw. Gobeithio’u bod nhw’n flasus

  • tatws
  • tatws1
  • tatws2

12.7.21 Cinio yn yr haul dydd Gwener

  • cinio-yn-yr-haul
  • cinio-yn-yr-haul1
  • cinio-yn-yr-haul2

8.7.21 Pŵer Pedlo
Diwrnod llawn hwyl yn pedlo a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg

  • pwer-pedlo
  • pwer-pedlo-1
  • pwer-pedlo2

7.7.21 Pys
Mae hi’n altro yn yr ardd Pawb yn mwynhau’r pys!

  • pys
  • pys2
  • pys3
  • pys-4

7.7.21 - Sesiwn Gerddoriaeth
Daeth Sian Eirian i'r ysgol i roi sesiwn gerddoriaeth i'r plant yn defnyddio gwahanol offerynnau.

  • cerdd

2.7.21 - Ras Gychod
Roedd Blwyddyn 2 wedi bod wrthi yn brysur adref yn gwneud cychod môr ladron. Felly, roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael ras gychod yn yr afon ger yr ysgol er mwyn gweld cwch pwy oedd orau. Roedd cychod arbennig gan bob un ohonynt. Iolo ddaeth yn gyntaf gyda'i gwch yr oedd wedi'i adeiladu gyda lego.

  • ras-gychod
  • ras-gychod1

1.7.21 - Diwrnod Môr Ladron
Wel am ddiwrnod da! Môr ladron gwerth chweil ym Mhont y Gof heddiw. Pawb wedi mwynhau ac wedi cyd-weithio gyda’i gilydd yn arbennig o dda.
Gwên ar wyneb pawb yn mynd a thrysor adref gyda nhw heddiw.

  • mor-ladron
  • mor-ladron-2
  • mor-ladron-3

30.6.21 - Canlyniadau'r Mabolgampau
Ar ôl cyfrifo holl farciau'r dyddiau, llwyddodd Trefaes i ddod i'r brig. Llongyfarchiadau mawr iddynt a llongyfarchiadau enfawr i bob un disgybl am gystadlu eleni.

  • canlyniadaur-mabolgampau

29.6.21 - Mabolgampau CS
Diwrnod hwyliog arall yn y mabolgampau i'r plant lleiaf y tro hyn. Ar tŷ oedd yn arwain gyda'r marciau oedd Dyffryn.

  • mabolgampau-cs
  • mabolgampau-cs2
  • mabolgampau-cs-3

24.6.21 - Mabolgampau CA2
Cafwyd dau ddiwrnod llwyddiannus yn y mabolgampau gyda phlant hŷn yr ysgol. Pawb yn gwneud eu gorau glas ym mhob cystadleuaeth a Thŷ Trefaes yn arwain gyda'r marciau.

  • mabolgampau-ca1
  • mabolgampau-ca2

25.6.21 - Ewros 2020
Penderfynwyd gwisgo coch er mwyn dangos ein cefnogaeth i dîm Cymru yn yr Ewros eleni. Roedd canu gwerth ei glywed yn yr ysgol.

https://www.youtube.com/watch?v=CnIavNLd7tk


23.6.21 - Offerynnau Newydd
Y plant wedi bod yn brysur yn perfformio gyda'r offerynnau newydd. Y drymiau Affricanaidd yn boblogaidd tu hwnt!! Diolch i'r gymdeithas rieni am gasglu arian gyda'r ras hwyaid. Rydym yn eu gwerthfawrogi yn fawr.

  • offerynnau-1
  • offerynnau-2

17.6.21 - Croesawu Plant Meithrin
Braf oedd cael croesawu plant newydd i'r ysgol. Roedd pawb i weld wedi mwynhau eu diwrnod.


15.6.21 - Casia William
Cafodd Blwyddyn 3 a 4 sesiwn hwyliog gyda'r awdures Casia William wrth iddi drafod ei llyfr 'Sw Sara Mai'.

  • casia-william

14.6.21 - Pili Pala
Mae Blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn brysur yn astudio cylch bywyd y pili pala. Cafwyd wyau pili pala yn y dosbarth a braf oedd gweld y pili pala yn mynd drwy ei gylch bywyd.

  • pili-pala
  • pili-pala-1

11.6.21 - Blas o'r ardd
Bu blwyddyn 2 yn brysur yn casglu radish o'r ardd. Golchwyd y radish a diolch i'r staff yn y gegin, cafodd bawb flas o'r radish amser cinio.

  • radish-1
  • radish-2
  • radish3

13.5.21 - Deor
Cawsom groeso mawr yn yr ysgol yn y bore pan welwyd fod y cywion bach wedi deor. Roedd y plant wedi gwirioni. Penderfynwyd alw'r cywion bach yn Heulwen, Huwcyn a Socsan.

  • cywion-1
  • cywion-2
  • cywion-3

27.5.21 Cyfarfod Rhithiol Blwyddyn 6 gyda Ysgol Botwnnog
Cafodd blwyddyn 6 gyfarfod gyda adran Gymraeg Ysgol Botwnnog i gael blas ar yr ysgol er mwyn eu paratoi ar gyfer mis Medi.


26.5.21 Ymweliad gan PC Owen
Daeth PC Owen draw i drafod diogelwch y we a diogelwch cyffredinol gyda phobl ddieithr wrth iddi nesáu at dymor prysur yr Haf.


21.5.21 Cawsom ddiwrnod i hel arian at elusen Cymorth Cyntaf.
Daeth pawb a £1 gyda nhw wrth iddynt gael gwisgo dillad eu hunain. Penderfynom ni gefnogi 'You're Udderly Fantastic'. Drwy hynny, rydym wedi prynu buwch mewn pentref ym Mangladesh am £187 er mwyn cyflenwi llaeth i bobl y pentref.
Cawsom wneud gweithgareddau ddydd Mercher er mwyn codi ymwybyddiaeth y Cymorth Cristnogol. Ein gweithgareddau oedd godro'r fuwch, helfa drysor o gwmpas y pentref i chwilio am 30 o luniau gwartheg, a chreu llun buwch.

  • 070721-cymorth-cristnogol
  • 070721-cymorth-cristnogol-2
  • 070721-cymorth-cristnogol-3
  • 070721-cymorth-cristnogol-4
  • 070721-cymorth-cristnogol-5
  • 070721-cymorth-cristnogol-6

14.4.21 - Ardal Tu Allan
Yn ystod gwyliau'r Pasg, bu cwmni Thomas&Williams yn brysur yn yr ysgol yn tacluso'r ardal tu allan yma. Diolch o waelod calon iddynt hwy eto am helpu'r ysgol. Mi fydd yn le llawer fwy defnyddiol.
  • gwaith-thomas-a-william

16.3.21 Dyma luniau o blant CA2 yn mwynhau eu hunain yn y parc.

  • 240321-parc-ca2-1
  • 240321-parc-ca2-2

15.3.21 CA2 yn ol.

Ar ol i blant y cyfnod sylfaen ddod yn ol i drefn, croesawyd blant CA2 yn ol. Braf oedd gweld wynebau pawb eto. Rydym yn aros mewn dwy swigen o fewn yr ysgol fel nad ydym yn cymysgu.


14.3.21 Sul y Mamau

  • 240321-sul-y-mamau
  • 240321-sul-y-mamau-1
  • 240321-sul-y-mamau-2

13.3.21 Sioe Achub Cymreictod

Rydym yn ddiolchgar iawn i Tudur, Anni a Megan am roi Sioe arall i ni eleni. Sioe i achub Cymreictod. Roedd plant y Cyfnod Sylfaen wedi mwynhau yn arw iawn.

  • 240321-sioe
  • 240321-sioe-1

12.3.21 Sbarduno

Roedd CA2 yn ffodus iawn i gael cymryd rhan mewn gweithdy Gwyddoniaeth oedd yn cael ei redeg gan gwmni Sbarduno. Cynhaliwyd y gweithdy dros Teams er mwyn i bawb gael cymryd rhan o gartref.

  • 240321-sbarduno
  • 240321-sbarduno-2

1.3.21 Dydd Gwyl Dewi

Cafwyd cyfle i wisgo dillad coch er mwyn dangos balchder o fod yn Gymry. Bum yn peintio cerrig hefyd gyda symbolau sy'n cynrychioli Cymru a'u rhoi ar y wal tu allan i'r ysgol.

  • 240321-dydd-gwyl-dewi
  • 240321-dydd-gwyl-dewi-2
  • 240321-dydd-gwyl-dewi-3
  • 240321-dydd-gwyl-dewi-4

1.3.21 Agorwyd y parc am y tro cyntaf

Agorwyd y parc am y tro cyntaf, dathlwyd dydd Gwyl Dewi yn y parc ac roedd pawb wrth eu boddau. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl gwmnioedd am eu gwaith a'u hamser er mwyn gorffen y parc. Diolch i Glwb Ffermwyr Ifanc y Rhiw a chwmni Thomas & Williams am greu sylfaen i'r parc, Diolch i gwmni S J Williams ac ddanfon y 'woodchip' a diolch i Gareth Williams a Huw Manion am ddod draw i wasgaru'r 'woodchip' yn y parc hefo digar E W Thomas.

  • 240321-parc-ca
  • 240321-parc-ca-1

22.2.21 Cyfnod Hir o Ddysgu Gartref

Wedi cyfnod hir o ddysgu gartref. Penderfynwyd ei bod yn ddiogel i groesawu plant y cyfnod sylfaen yn ol i'r ysgol.


4.1.21 Daeth cyhoeddiad o'r llywodraeth fod yn rhaid cau'r ysgolion eto yn sgil covid19. Felly, roedd yn rhaid dysgu o adref.


16.12.20 - Noson Gemau y Cyfnod Sylfaen

Cawsom noson llawn hwyl a sbri yn yr ysgol yn chwarae llawer o wahanol gemau, roedd y plant wedi mwynhau eu hunain ar noson olaf y tymor.

  • 171220-gemau-cyfnod-sylfaen-1
  • 171220-gemau-cyfnod-sylfaen-2
  • 171220-gemau-cyfnod-sylfaen-3

15.12.12 – Ymweliad Sion Corn


Mi heidiodd pawb i’r ffenestr heddiw wrth i Sion Corn gerdded heibio yn codi llaw. Roedd pawb wedi cyffroi ac mi adawodd yr hen ddyn clên sacheidiau o anrhegion i bawb.

  • 161120-2
  • 161120-2

15.12.20 Gwasanaeth Rhithiol

Gyda’r amgylchiadau heriol eleni, rydym wedi bod yn cynnal gwasanaethau rhithiol yn wythnosol. Mae pob dosbarth yn cael rhannu newyddion am yr wythnos ac mae rhywun o pob dosbarth yn derbyn tystysgrif ‘Gorau Glas’. Dyma’r ffordd orau i gadw pawb mewn cyswllt ar hyn o bryd.

  • 151220-dosbarth

14.12.20 – Noson Ffilm CA2


Nos Lun, cawsom noson ffilm yn yr ysgol, Nativity 4 oedd y ffilm ddewiswyd gan y disgyblion I’w gwylio. Cawsom fferins, creision a sudd oren wrth ei gwylio. Roedd hi’n braf gweld y plant yn mwynhau ac yn gwneud o mwyaf o dreulio amser gyda’I gilydd.

10.12.20 Menter Canhwyllau Blwyddyn 2

Mae plant dosbarth blwyddyn 2 wedi bod wrthi yn brysur yn gwneud canhwyllau hyfryd i'w gwerthu cyn y Nadolig. Maent wedi gwerthu 74 ohonynt felly roeddent yn brysur iawn yn eu creu wythnos yma. Pris un gannwyll oedd £2 a 3 cannwyll oedd £5. Gwnaethpwyd £130 o elw i'r ysgol.


  • 161220-1
  • 161120-4
  • 161220-5
  • 161120-6
  • 161120-7

2.12.20 Taith o amgylch y pentref

Taith y pentref - Wrth i blant CA2 wneud gwaith ar eu hardal leol, aethant ar daith o amgylch y pentref er mwyn gweld beth oedd yno. Maen bwysig dechrau wrth ein traed!

  • 071220-taith
  • 071220-taith1

01.12.20 Ymweliad PC Owen


Rydym yn gwerthfawrogi ymweliad gan PC Owen yn flynyddol, roedd y disgyblion wedi mwynhau ei gyflwyniad ac yn sicr wedi mwynhau cael clywed y seiren ar iard yr ysgol.

  • 071220-pc-owen1
  • 071220-pc-owen2

30.11.20 Sioe Nadolig 'Yr Heriau Hud'

Gan nad yw'n rhwydd i ni fynd ar daith ysgol Nadoligaidd eleni, cawsom y cyfle fel ysgol i helpu Anni, Tudur a Megan wrth dreialu eu sioe Nadolig fel eu bod yn cael mynd ymlaen i gyflwyno'r sioe i weddill ysgolion Cymru. Diolch yn fawr iddynt am y cyfle a dymuniadau gorau iddynt ar weddill y perfformiadau.

  • 041220-sioe1
  • 071220-sioe2
  • 071220-sioe3

13.11.20 Diwrnod Plant Mewn Angen

Llwyddom i gasglu £138.75 at achos Plant mewn Angen. Fe gymerodd pawb ran yn her 'Actia dy Oed' oedd yn cael ei gynnal gan Aled Hughes ac fe gyfrannodd pawb wrth roi arian am gael gwisgo byjamas i'r ysgol.


23.10.20 Diolchgarwch


02.09.20 Croesawu plant dosbarth meithrin.

Plant meithrin - Eleni rydym wedi croesawu 11 o blant bach newydd yn yr ysgol. Rhown groeso i Abner, Alanna, Alys, Elis Alun, Elis Wyn, Elsie, Huw, Indi, Keegan, Maia a Stan. Gobeithiwn y cawn nhw amser gwerth chweil yma ym Mhont y Gof.

  • 071220-plant-meithrin

18.11.20 Y Gof

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Y Gof

18.10.19 'Ras Ofod'

imageLlongyfarchiadau i'r criw sydd wedi llwyddo i gwblhau her genedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf, 'Ras Ofod' eleni.


16.10.19 Cit pel droed newydd

imageRydym fel ysgol wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cit pel droed newydd i'r ysgol, dyma'r cyngor chwaraeon yn y cit.


15.10.19 Llongyfarchiadau

imageLlongyfarchiadau i Owain Strain ar gael ei ddewis i dim rygbi Eryri.


26.06.19 Gala Nofio

imageLlongyfarchiadau i'r criw ddaeth yn 2il yn nghystadleuaeth Gala nofio eleni.


26.06.19 Criw mentrus

imageLlongyfarchiadau i griw ddosbarth blwyddyn 2 a 3 ar ddod yn ail yng nghystadleuaeth y criw mentrus eleni.


18.05.17 Gala Nofio

imageLlongyfarchiada' enfawr i griw'r Gala Nofio heddiw! Wedi llwyddo i ddod yn gyntaf allan o'r ysgolion gyda mwy nag 80 o ddisgyblion. Gwych iawn bawb!

18.05.17 Gala Nofio

imageLlongyfarchiada' enfawr i griw'r Gala Nofio heddiw! Wedi llwyddo i ddod yn gyntaf allan o'r ysgolion gyda mwy nag 80 o ddisgyblion. Gwych iawn bawb!


27.03.17 Bore Coffi

imageDiolch i bawb am ddod draw i'r bore coffi ddydd Iau. Bu i bawb gael hwyl yn cogninio, sgwrisio a chasglu arian. Hoffai flwyddyn 5 a 6 ddiolch o galon i bawb am ddod i gefnogi. Bu i swm teilwng gael ei godi i elusenau. Dyma ambell lun o'r diwrnod.


23.03.17 Bore Coffi

imageDiolch yn fawr i rai o'r rhieni am ddod i mewn i'n helpu prynhawn 'ma i baratoi ar gyfer y bore coffi yfory. Mae plant 3,4,5 a 6 wedi bod wrthi'n coginio popeth o gacenni cri i frownis!
Dewch draw i'r ysgol 'fory rhwng 10-11 am baned, cacen a sgwrs! Cliciwch yma i weld mwy o luniau


17.03.17 Pêl Rwyd

imageYn dilyn eu llwyddiant yr wythnos diwethaf ym Mhorthmadog, bu i'r tîm gael mynd yn eu blaenau eto'r wythnos hon, i'r rownd nesaf, y tro hwn yn chwarae timau o Wynedd gyfan. Bu iddynt chwarae yn arbennig o dda, a bu i bawb ddod o'r twrnament yn wen o glust i glust. Llongyfarchiadau iddynt am fynd mor bell, a diolch anferthol i Heidi Bakwell (rhaint yn yr ysgol) am eu hyfforddi.


13-14.03.17 Plas Menai

imageDiolch i Blas Menai am y croeso dros y ddeuddydd diwethaf, mae pawb wedi cael andros o hwyl yn hwylio, kyakio, dringo a beicio! Cliciwch yma i gael rhywfaint o luniau o'n anturiaethau!!


22.11.16 Seiri'r Coed

imageMae'r Seiri wedi bod yn brysur yn paratoi at ei ffair Nadolig cyntaf yn Hwyl yr Wyl, Pwllheli y penwythnos hwn!


18.11.16 Plant Mewn Angen

imageY Cyngor Ysgol wedi llwyddo i gasglu £210 ar gyfer Plant Mewn Angen heddiw. Diolch i bawb am y gefnogaeth!


17.11.16 Llongyfarchiadau Gwenan Haf Jones

imageHoffai Ysgol Pont y Gof longyfarch Gwenan Haf Jones ar ei llwyddiant yn Rali Goffa James Trenholme y penwythnos diwethaf. Rhannodd ei phrofiadau gyda Blwyddyn 3 a 4.
Yn y llun gwelir rhai o blant a buodd yn brysur yn cynhorthwyo ar y noson.

 

 

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru