Mae Ysgol Pont y Gof yn Ysgol gynradd wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Mae gwerthoedd Cristnogol wrth wraidd bywyd yr ysgol. Rydym yn annog parch, caredigrwydd, gonestrwydd a gofal tuag at eraill ym mhob agwedd o fywyd ysgol.
Mae addoli ar y cyd, cysylltiadau cryf â’r eglwys leol a gweithgareddau cymunedol yn rhan bwysig o brofiadau’r disgyblion.
Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Rhydbach
Cafodd y plant gyfle arbennig i gymryd rhan yn ein Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Rhydbach. Daeth y plant, staff, rhieni ac aelodau o’r gymuned ynghyd i ddiolch am y cynhaeaf a’r holl bethau da sydd gennym.
Cyngerdd Nadolig yn Neuadd Sarn
Bu plant y Cyfnod Sylfaen yn actio stori’r geni yn yn Neuadd Sarn. Ar ddiwedd sioe CA2, Baban Iesu oedd Seren y Nadolig, gan roi diweddglo arbennig i’r noson.
Bu’r plant yn helpu i dacluso Eglwys Llandegwning. Roedd yn gyfle gwych i ofalu am ein hardal leol a dangos parch tuag at yr Eglwys a’i hanes.
Casglu llyfrau a thedis i blant yn Kenya
Bu’r plant yn casglu llyfrau a thedis i’w hanfon at blant yn Ysgol Jolaurabi. Roedd yn gyfle gwych i ddangos caredigrwydd a gofalu am eraill.